Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Gof y Gynau Gwynion Cof plentyn sydd gennyf o ymlwybro ymysg y beddau ym mynwent Eglwys y Plwyf, Llanarthne, Sir Gaerfyrddin, brynhawn o haf, ynghyd â gweddill plant yr ysgol gynradd gyfagos. Sefyll wedyn gerllaw ywen a syllu ar fedd oedd, i'm tyb i, heb fod yn wahanol i unrhyw fedd arall. Blynyddoedd wedyn fe ddaeth yn glir i'r crwt digon anystyriol hwnnw mai pererindod fechan oedd yr ymweliad i edrych ar feddrod unig emynwr y pentref, a thestun yr erthygl hon, sef David George Jones (1780-1879)t Ar wahân i draddodiad, prif ffynhonnell y wybodaeth sydd gennym amdano yw'r garreg fedd honno sy'n sôn amdano fel 'David G. Jones, Tirwaun, o'r plwyf hwn. Awdwr "Bydd myrdd o ryfeddodau". Dywed J. Jenkins mai mewn man yn y plwy a elwir Capel Dewi yr oedd yn byw. Mae traddodiad yn unfrydol mai gof oedd wrth ei alwedigaeth ac mai ar achlysur angladd dyn o bwys yn Lloegr, lle'r oedd yn gweithio ar y pryd, y cyfansoddodd ei bennill adnabyddus wrth weld cynifer o glerigwyr yn eu gwenwisgoedd wedi ymgynnull ar lan y bedd.2 Fel y sylwodd J. E. Lloyd,3 y mae D. G. Jones yn nhraddodiad yr emynwyr hynny sydd wedi ennill bri ar sail un pennill yn unig, megis Arthur Evans, Cynwyl neu Thomas Lewis, Talyllychau er enghraifft. Mae'r tebygrwydd rhyngddo a'r olaf a enwyd yn hynod gan mai gof oedd yr hen Thomas Lewis yntau. Wrth droi at y pennill ei hun argyhoeddir dyn ar unwaith yn y llinell gyntaf gan y sicrwydd diamheuol sydd ynddi, 'Bydd myrdd o ryfeddodau'. Ceir yr un tinc yn emyn Morgan Rhys ar yr union un thema, 'Fe welir Seion fel y wawr'. Ac mewn cyfnod o ansicrwydd, ie, ac anffyddiaeth ronc am y byd a ddaw, da o beth fyddai gofyn, o ba le y daeth y sicrwydd hwn ? Atebir y cwestiwn gan y pennill ei hun. Sicrwydd a seilir ar awdurdod Gair Duw sydd yma. Mae'r cyfeiriadau ysgrythurol ynddo yn dangos fod yr awdur yn hyddysg yn y Beibl, a'i wybodaeth a'i ffydd yng Ngair Duw yn ennyn hyder ynddo. Oblegid er mai emyn gwrthrychol yw hwn mae'r elfen oddrychol yn cyniwair drwyddo. Yn wir, nid gormod fyddai hawlio mai cyffes ffydd yr awdur sydd yma. Os oes sail i'r traddodiad mai 'gynau gwynion' y clerigwyr oedd y symbyliad i ail ran y pennill mae'n gwbl amlwg mai atgofiVr awdur o 'ynau gwynion' Datguddiad 7: 9 a 13 a wnaethant, gydag adnod 14 yn sail i'r cyfeiriad at y 'cystudd mawr'. Diddorol yw'r ffurf, 'ac ar eu newid wedd' yn Y Drysorfa, 1836, t. 24. Cýféîriad sydd yno at 1 Cor. 15: 52, 'a ninnau a newidir', tra bod 'newydd wedd' ein llyfrau emynau cyfoes, o bosibl, yn cyfeirio at Dat. 21 15, 'Wele, yr wyf yn gwneuthur pob peth yn newydd'. Adnod arall o'r Datguddiad a ddaw i'r meddwl wrth ailddarllen