Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

yr emyn, sef 'Gwyn eu byd y meirw y rhai sydd yn marw yn yr Arglwydd' (Dat. 14: 13), canys byddant Yn debyg idd eu Harglwydd Yn dod i'r lan o'r bedd. Yn yr hinsawdd ysbrydol sydd ohoni prin y bydd llawer o bererindota i Eglwys y Plwyf, Llanarthne, i goffau genedigaeth D. G. Jones nac i aros tipyn wrth ei fedd. Hwyrach, wrth ystyried, mai priodol digon yw hynny, oherwydd nid yw'r emynwr yn ein gadael wrth y bedd ond yn ein tywys y tu draw iddo. Byddai pererindod i weld ei fedd yn goffa annheilwng ohono. Llawer gwell fyddai canu ei emyn yn amlach ac yn fwy ystyriol; ei ganu yn yr un ysbryd â'r wraig honno o Grucywel gynt, mewn hyder a sicrwydd mawr gan 'edrych tu draw i angau a'r bedd ar y bore y bydd y briodasferch yn gyflawn ar ddelw ei Phen a'i Phriod am dragwyddoldeb.4 Tŷ-croes. RONALD PERKINS 1. J. Jenkins, Llanarthney: The Parish, its People and Places (1939), t. 79. 2. Gw. John Thickens, Emynau a'u Hawduriaid (1961), t. 17. 3. J. E. Lloyd, A History of Carmarthenshire, II (1939), t. 430. 4. Y Drysorfa, 1836, t. 24. Ni fynnwn i debygu Palgrave ac Elfed yn ormodol, 'roeddynt yn troi mewn cylchoedd cymdeithasol mor gwbwl wahanol. Eto, fel emynwyr nid oeddynt gymaint ar wahân. Anadlai Elfed awyr Fictoraidd yr Hymns Ancient and Modern, awyr sweetness and light y mudiad esthetig yn niwylliant oes Fictoria, ac i ryw raddau 'roedd Elfed fel Palgrave yn Eminent Yictorian. Mae'n anodd diffinio'r eminence, ond efallai fel uchelfrydedd, ymchwil am bopeth da a phrydferth ac aruchel mewn byd sydd yn faterol, ariangar a hyll. An-chwarae-teg ag Elfed yw ystyried ei emynau ar wahân i duedd- iadau yn emynyddiaeth Lloegr yn oes Fictoria. Bu ef bron ar hyd ei oes naill ai yn gweinidogaethu yn Lloegr neu ar eglwysi Saesneg. Wn i ddim digon am emynyddiaeth Cymru heb sôn am Loegr i fentro barn pa un a yw Elfed yn haeddu'r enw o fod yn 'llofrudd yr emyn' ai peidio. Fe aeth yr emyn ar i waered yn ystod yr ugeinfed ganrif yn Lloegr heb help gan Elfed. Nid wyf gymwys chwaith i sôn am ddiwinyddiaeth neu ddiffyg diwinyddiaeth yn ei emynau. Sonnid amdano yn yr enwad fel pregethwr melys, nid fel diwinydd praff. Yr argraff sydd arnaf yw fod Elfed, a llawer un tebyg iddo, yn adweithio yn erbyn y dadlau a'r cecru diwinyddol a nodweddai'r genhedlaeth neu ddwy o'i flaen. -Prys Morgan yn Taliesin, Gorff. 1979,