Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Pedwar Llyfr Emynau Eglwysig o Lannerch-y-medd, 1817-1824 Ychydig o le a gâi canu cynulleidfaol yng ngwasanaethau Eglwys Loegr cyn 1800, ond tua dechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg fe ddaeth newid ar bethau. Yn ysgrif y golygydd, John Julian, ar emynyddiaeth yr Eglwys Anglicanaidd yn A Dictionary ofHymnology sonnir am y cynnydd mewn canu emynau yng ngwasanaethau'r Eglwys tua 1801-1820 a rhestrir nifer o gasgliadau o salmau ac emynau, amryw ohonynt ar gyfer cynulleidfaoedd unigol, a gyhoedd- wyd yn Lloegr yn ystod y blynyddoedd hyn. Cyhoeddwyd casgliadau tebyg ar gyfer eglwysi unigol yn rhai o drefi Cymru hefyd. Llyfrau Saesneg oedd y rhain at ei gilydd, fel y tri hyn, er enghraifft: A Selection of Psalms, Hymns, and Anthems, Appointed to be Sung in the Parish Church of Welshpool, Welshpool, R. Owen, 1818. A Collection of Psalms, in Convenient Portions, for the Use of the Congregation in St. Mary's Chapel, Carnarvon, Carnarvon, J. Hulme, 1820. (Cafwyd ail arg. gan Pool & Harding, Carnarvon yn 1824). Collection of Psalms and Hymns for the Use of Persons Attending English Parochial Services in the Town of Bangor, Bangor, C. Broster, 1823. 'Roedd y cynulleidfaoedd Saesneg ym mân drefi Cymru am gael eu llyfrau canu eu hunain, fel yn Lloegr, a throwyd at y gweisg argraffu lleol i borthi'r galw. Ond beth am y cynulleidfaoedd Cymraeg? Yr ateb, mae'n ymddangos yn eu hachos hwy oedd detholion ar gyfer cynulleidfaol yn gyffredinol. Er enghraifft: Psalmau Dewisedig o Gyfieithiad yr Arch-diacon Prys, Bangor, John Broster, 1815. Salmau a Hymnau Dewisol, o Waith Amrywiol Awdwyr; wedi eu cyfaddasu i'w canu yng Nghyoedd Addoliad Duw, Rhydychain, W. Baxter, 1817. Crynodeb o Lyfr y Psalmau; wedi eu Cyfieithu a'u Cyfansoddi ar Fesur Cerdd. Gan Edmund Prys Hefyd, Ychydig Hymnau, Bala, R. Saunderson, 1821. Hanner cant o salmau Prys sy'n y cyntaf o'r rhain; mae yn yr ail 40 o salmau (fersiynau Prys ac eraill) a 55 o emynau; yn y trydydd cynhwyswyd salmau cân Prys i gyd, 23 o emynau ac un salm Saesneg. Dyna, yn fyr, y cefndir i bedwar o lyfrynnau o salmau ac emynau a argraffwyd yn Llannerch-y-medd ym Môn gan Enoch Jones rhwng 1817 a 1824. Y cynharaf ohonynt oedd: