Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

arno. Detholion o salmau cân Prys yw 35 o'r 42 salm; mae 6 o'r 7 arall yrì 'diiyn cyfröl Rhydychen (gan gynnwys fersiwn 8 ar Salm 23 a gyhoeddwyd yn y Bwletin hwn, Cyf. I, t. 267). Yr eithriad yw Salm 18, fersiwn na wn i ddim amdano, sy'n dechrau fel hyn: Molwch yr Arglwydd, can's da yw Moliannu Duw ar gân. O'r 67 emyn mae 16 yn netholiad Rhydychen 1817. Mae 5 o'r 51 arall yn netholiad Llannerch-y-medd 1817, sy'n awgrymu fod John Jones yn tynnu ar hwnnw hefyd. Y ddau emynydd sy'n cael y lle blaenaf yn ychwanegiadau John Jones yw Benjamin Francis a Dafydd Jones o Gaeo (gyda'i dros- iadau o waith Isaac Watts, yn bennaf). Mae'n hawdd gweld pam yr apeliai eu hemynau hwy at Eglwyswyr, fel y gwnai cyfieithiad Bardd Nantglyn, Duw mawr! beth wyf fi'n weled draw', penillion Dafydd Ddu Eryri Aeth heibio etto flwyddyn gron', a dau emyn Robert ap Gwilym Ddu Cyfododd Brenhin hedd' ac 'O Frenin nef a daear lawr'. Ychydig sy'n wybyddus am John Jones, casglwr cyfrolau 1824. Yn ôl A. I. Pryce, The Diocese of Bangor during Three Centuries (1929), tt. 60-1, daeth i Amlwch yn gurad ym Medi 1823; gadawodd erbyn Rhagfyr 1826. [Mae ar glawr rai llythyrau o eiddo John Jones o'i gyfnod fel curad Amlwch, at John Sanderson, stiward Plas Newydd, yn gofyn (ymhlith pethau eraill) am godiad yn yr 'English Duty', sef y tâl ychwanegol a roddwyd i guradiaid Amlwch am gynnal gwasanaeth Saesneg bob Sul, gweler Trans. Angl. Antiq. Soc., 1946, t. 86 a John Rowlands, Copper Mountain (1966), tt. 52, 132-3. Rhesymol fyddai credu i lyfryn Saesneg 1824 gael ei gynhyrchu yn bennaf ar gyfer y gwasanaethau hynny. Gol.] Y mae i ddetholiad John Jones fel i gasgliad Rhydychen 1817 ei le yn hanes emynyddiaeth yr Eglwys yng Nghymru: y rhain yw'r mân gronfeydd y tynnwyd ohonynt ar gyfer emyniaduron fel un yr Esgob Lloyd at ddiwedd y ganrif. Bangor. BEDWYR L. JONES Ôl-nodyn: Hoffwn ddiolch i'r Golygydd am ei gymorth imi wrth lunio'r nodyn hwn. Ef a dynnodd fy sylw at Salmau a Hymnau wedi eu Diwygio 1817 ac at A Small Collection ofPsalms and Hymns 1824, a mawr yw fy nyled iddo. Emynau Cymru yw gogoniant ei llenyddiaeth. w — O.M.Edwards yn Cymru'r Plant 1906.