Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

'Llawn Llafur yw Llynlleifiad' Cafwyd cyfraniad gwerthfawr i lenyddiaeth ac emynyddiaeth gan y gymdeithas Gymraeg yn Lerpwl yn y ganrif ddiwethaf, ac yn arbennig gan y capeli Ymneilltuol. Yn wir mae'r ddinas hon wedi cyfoethogi ein hetifeddiaeth dda yn fwy, ond odid, na'r un ddinas arall. Pe buasai ond am y dôn Liverpool gan Ieuan Gwyllt neu'r emyn gwych hwnnw, 'Daeth ffrydiau melys iawn', o eiddo Pedr Fardd, byddai'r cyfraniad yn un nodedig. Sut mae cyfri am yr egni sylweddol hwn o'r ddinas hon? Peth cryf, sy'n dirdynnu calon y Cymro o'i gynefin fro, yw hiraeth. Rhaid oedd i'r Cymry fynd i Lerpwl yn y ganrif ddiwethaf er mwyn cael gwaith. Eto, er bod gwaith yno, bywyd caled oedd bywyd Lerpwl i'r Cymro alltud yn y dyddiau gynt, gyda bwyd ac arian ar brydiau yn ddigon prin. 'Roedd Pedr Fardd, er enghraifft, â gormod o waith cael dau benllinyn ynghyd i feddwl mynd am dro i weld ei deulu a'r hen gymdeithas gytûn yn Eifionydd. Clywch ef yn ymarllwys ei hiraeth Fy hen serchog fryniog fro, Ni chaf ond prin ei chofio: Nid yfir o Dwyfawr iach, Darfu difyr dwrf Dwyfach; Aeth y Garn ymaith o gof, Brynengan bron i angof; Ac nid oes am oes i mi Un gobaith am Langybi. Fy enaid am Eifionydd Mewn hiraeth ysywaeth sydd. Llawn llafur yw Llynlleifiad Cyfyng loes yw cofio 'ngwlad. (Mêl Awen, t. 80). Dyna'r gwir hefyd am Eleazer Roberts. Canfyddir eco hiraeth ei dad a'i fam, yn ogystal â'i hiraeth yntau, aml dro yn ei waith. Ac un eglurhad ar egni'r Cymry alltud yw, mai wrth lenydda, wrth lunio cân ac emyn, y cafwyd gollyngdod o dro i dro o afael yr hiraeth hwn. Ond yn Lerpwl y cafodd gwr yr ydym yn dathlu eleni ganmlwyddiant ei farw, ei fagu a'i feithrin; gŵr y ddinas fu ar hyd ei oes. Un o blant Capel Bedford Street (M.C.) oedd John Roberts (Minimus; 1808-80), a'i dad yn un o flaenoriaid yr achos. Heblaw am ofal tadol Thomas Charles a phregethu nerthol John Elias, gellir priodoli llwyddiant achos y Methodistiaid yn Lerpwl ddechrau'r ganrif ddiwethaf i flaenoriaid galluog a gweithgar. Un o'r blaenoriaid o'r teip yma oedd Richard Roberts (1778-1843) y tad. Dywedir amdano: 'Aflonyddai ar esgeuluswyr a gwrthgilwyr, a phan fyddai angen, dilladai hwynt a dygai hwynt i foddion gras. I'w ymdrechion neilltuol ef, mewn rhan, y mae cyfrif am gynnydd