Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Genhadol Dramor y Methodistiaid Calfinaidd, sef 1840, oedd blwyddyn geni'r emyn hwn hefyd. Gweddi llawn dyhead dwys ydyw, gyda'r agoriad yn eang a chymdeithasol ond gyda'r diweddglo yn agos a phersonol, fel dilyn afon, nid o'r mynydd i'r môr, ond o'r môr i lygad y ffynnon, sef yn yr achos hwn, i'r galon, 0 le y tardd pob ymgysegriad a dyhead Cristnogol. Aber-carn Bywha dy waith, O Arglwydd mawr, Yn ein calonnau ninnau'n awr, Er difa pob rhyw bechod cas A chynnydd i bob nefol ras. R. L. GRIFFITHS Yng Nghanu Taliesin ceir cynganeddion Sain cyflawn wedi eu gweithio rhwng dwy linell, gyda'r odl gyntaf ar ddiwedd y llinell gyntaf, a'r ail odl yn gweithredu fel odl gyrch yng nghorff yr ail lineH: Enaid Owain ab Urien, Gobwyllid Rheen o'i raid. Dyma egwyddor a ailadroddwyd droeon yn ddiweddarach yn ein traddodiad, er enghraifft, un o emynau Robert ap Gwilym Ddu: Calfaria nid anghofir Tra gwelir ôl y gwaed Yn clirio'r holl gysgodau Trwy'r gwyrthiau mawr a gaed. -Alan Llwyd yn Barn, Gorff.-Awst 1979. Wrth iddo agor ar un o emynau J. T. Job (Emyn 447 [yn Llyfr Emynaú'r Methodistiaid]) Ю Ddydd i Ddydd', cyfeiriodd [y Parch. J. M. Job, Llangefni] ein myfyrdodau at rai oallwedd-eiriauyremyn a saernïwyd yn ofalus a chrefftus: Gyrfa, Goleuni, Gorfoledd. Wrth gloi cyfeiriodd at englyn o eiddo'r awdur Ei Nêr a Folant', sy'n grynodeb o fawredd emynyddiaeth yn ei olwg: Golud emynau Gwalia, o doreth Dirion! Pwy a'u prisia, Deil y ddawn i'n cenedl dda Yn waddol na heneiddia. -0 adroddiad Henaduriaeth Môn yn Y Goleuad, 5 Gorff. 1979.