Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Thomas Hopkin Evans (1879-1940) Ei Gefndir a'i Donau O gwmpas dwy flynedd yn ôl bu Cymru yn dathlu canmlwyddiant dau gerddor adnabyddus E. T. Davies o Ddowlais, a Charadog Roberts o Rosllannerchrugog. Fel rhan o'r dathlu traddodwyd anerchiad rhagorol, gyda dadansoddiad treiddgar o'u cyfansodd- iadau gan Richard Elfyn Jones, ac y mae crynodeb o'r ddarlith ar gael yn y Bwletin (Cyf. II, Rhif 2). Telir ynddi deyrnged wiw i'r 'egni a'r brwdfrydedd cerddorol aruthrol yn nechrau'r ganrif hon yn ardaloedd diwydiannol y de a'r gogledd', ac fe danlinellir y gwahaniaeth enfawr rhwng y sefyllfa gerddorol yn y cyfnod cyn y Rhyfel Byd Cyntaf a'r oes bresennol. I mewn i'r gymdeithas eiddgar a diwylliedig honno, er mor dlodaidd a chyfyng ydoedd ar lawer cyfrif, y ganwyd Thomas Hopkin Evans. A bwrlwm y diwylliant yma a ddyfrhaodd ei athrylith gynhenid yn nyddiau maboed yn ardal weithfaol Glyn Nedd, gan barhau i'w feithrin nes iddo gyrraedd ei lawn dwf fel arweinydd a chyfansoddwr. Mewn gwirionedd mae pererindodau cerddorol E. T. Davies a Charadog Roberts yn eu hanfodion yn debyg iawn i hanes datblygiad galluoedd Hopkin Evans; ac yn y cyswllt hwn priodol yw cofio am gerddor nodedig arall, yn enedigol o'r un dyffryn, sef David Evans (1874-1948). Troeddiodd yntau yr un llwybr. Dywedwyd droeon, a hynny'n ddigon naturiol am eu bod yn dwyn yr un cyfenw, fod Thomas Hopkin a David yn gefndyr, ond nid oes sail gadarn i'r dybiaeth. Fe'm sicrheir gan y genhedlaeth bresennol mai arwydd o'r gyfathrach deuluol gynnes oedd yr arferiad o gyfeirio at 'Uncle' David, ac nid pawf o berthynas gwaed. Ac y mae'n wybyddus mai trwy anogaeth a than gyfarwyddyd ei 'ewythr' y derbyniodd y llencyn y symbyliad cynnar i'w yrfa gerddorol; bu'r tad hefyd yn ei annog yn frwd. Ganrif yn ôl, mewn ardal weithfaol fel Resolfen, prin iawn oedd cyfleusterau addysgol tu hwnt i'r ysgol elfennol. Felly nid oedd gan y tad, David Evans gwerinwr diwylliedig a cherddgar pa beth bynnag oedd ei uchelgais cudd ar gyfer ei fab, fawr o ddewis ymarferol y dyddiau hynny. O ganlyniad i'r fath amgylchiadau, nid yw'n syndod clywed am hanes Thomas Hopkin yn gadael yr ysgol yn ddeuddeg oed, ac yn cydgerdded â'i dad dros y mynydd o Resolfen i ddechrau gweithio yn y pwll glo yng Nglyn Corrwg. Trwy drugaredd yr oedd ei gyneddfau naturiol yn dod i'r amlwg ac yn mynnu dat- blygu, a thra eto'n llencyn daeth i sylw fel chwareuydd ar y chwib- anogl yn y band lleol. Ymledodd ei dalent yn fuan a chyn diwedd ei arddegau daeth yn adnabyddus fel pianydd ac organydd hyfedr. Gwelwyd fod ynddo addewid arbennig, a threfnwyd ym 1900 iddo gael tymor o hyfforddiant cerddorol yng Nghaerdydd, ac yna yn Llundain.