Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Lloffa 1979 GAN Y GOLYGYDD Y cyfraniad mwyaf sylweddol ar emynyddiaeth a ymddangosodd ym 1979*, ond odid, yw erthygl gyfoethog Hywel D. Lewis yn ei gyfrol Pwy yw Iesu Grist? sy'n trafod pa fodd y cyfleir 'y gwir mewn cân ac emyn', ac yn yr erthygl â'r awdur i'r afael â'r Jonesiaid â John Gwilym Jones ar gyfrif ei ddehongliad o waith Pantycelyn ac Ann Griffiths, ac â Gwilym R. Jones oherwydd ei linyn mesur ef ar gyfer 'emynau anaddas'. Un thema a ymddangosodd droeon yn ystod y flwyddyn oedd adrodd achlysur cyfansoddi emyn. Y Faner ddechreuodd bethau gyda'i chyfres 'Dyma fel y daeth lIe y cafwyd hanes 'Pantyfedwen' (2/2) a 'Tydi a Roddaist' (23/2, a gw. Barn Awst/ Medi). Yn ei ragair i restr testunau Eisteddfod Genedlaethol Dyffryn Lliw, crybwylla H. Meurig Evans draddodiad cyfansoddi 'Yn y dyfroedd mawr a'r tonnau', ac yn Bro (Chwef./Mawrth) ceir hanes cyfansoddi 'Er nad yw 'nghnawd ond gwellt'. Yn Y Goleuad, wedyn, cawn hanes cyfansoddi cyfieithiad gan William Morris (4/7), emyn gan J. Edward Williams (1/8), emyn priodas gan T. R. Jones (15/8), ac emyn dathlu gan Gomer M. Roberts (24/10), a cheir stori'r garol 'Tawel Nos' i blant yn Barn (Nadolig). Yr emynydd a gafodd fwyaf o sylw ym 1979, yn naturiol ddigon, oedd Morgan Rhys. Trefnwyd cyfarfodydd dathlu daucanmlwydd- iant ei farw yn Llanfynydd (C.2/ 10, G. 10/10, T. 11/10), a chyhoedd- wyd raglen i'r achlysur yn cynnwys 13 o'i emynau mwyaf poblogaidd. Cafwyd erthyglau ar Morgan Rhys gan O. Alon Jones (G. 24/10, 31/10, 7/11), D. J. Roberts (T. 15/11) a D. Albert Lewis (Gwyliedydd 12/7), ond yr erthygl bwysicaf, yn dilyn yr un trywydd ag eiddo Rhiannon Ifans yn y Bwletin hwn y llynedd, yw un D. Simon Evans ar yr emyn 'Deuwch holl hiliogaeth Adda' yn Ysgrifau Beirniadol XI. Portread dychmygol o Bantycelyn ar ffurf cyfres o lythyrau a gafwyd gan Rhiannon Davies Jones yn 'Troëdigaeth Llanc' (Seren Gomer Haf a Hyd.). Sonnir am y tân yn ei waith gan R. Dwyryd Williams (G. 6/6), am le'r groes yn ei emynau gan Aneirin Talfan Davies (Barn Meh.), am ddylanwad Milton arno (Ysgrifau Beirn- iadol XI) ac am Gyfarwyddwr Priodas (G. 21/2), a sôn am ei deulu gan M. Mitchell (Genhinen 29/1). Yn yr un rhifyn o'r Genhinen gwelir englyn i Williams gan y diweddar O. M. Lloyd, a cherdd arall yn Y Tyst gan Alun Page (27/12). Ymddangosodd cerdd i Dafydd Jones o Gaeo yn Y Genhinen (29/2) a bu trafod ar ddyddiad ei eni (G. 7/3, 28/3, 16/5). Gwelwyd ysgrifau ar Phylip Pugh gan Eifion Evans (Cylch. Efengylaidd Medi/Hyd.), Pedr Fardd gan Thomas Parry Trefnant (T. 1/11) ac Iago Trichrug gan 'Rhyswg' a Goronwy *Byrfoddau: C.— YCymro; F.-Y Faner; G.-Y Goleuad; T.-Y Tyst; cyfeirir at y dyddiad a'r mis yn unig.