Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Yn ôl ei arfer bu Einon-ap-Abon yn cadw cyfrif manwl ar donau 'Caniadaeth y Cysegr' (T. 1/2). Roedd cystadleuaeth cyfansoddi emyn-dôn yn Eisteddfod Caernarfon, ac Alun Davies yn beirniadu (gw. y Cyfansoddiadaú), ac wrth sôn am gystadlu, cafwyd sylwadau craff gan Dyfnallt Morgan mewn cystadleuaeth cyfansoddi emyn (T. 15/1 1). Bu peth beirniadu ar y dôn Crug-y-bar yng nghyd-destun trafod lle organ mewn capel (G. 7/3) ac amddiffyn brwd (G. 4/4, 16/5) Bu Ifor ap Gwilym yntau'n trafod adeiladwyr organau (Porfeydd Mawrth/Ebrill). Carolau i orffen. Bu Pais (Rhag.) yn dathlu'r plygain yng nghwmni Rhiannon Williams, a Barn (Nadolig) yng nghwmni Richard H. Lewis. Cafwyd adolygiad ar Carolau Plygain (Sain 1100) a Carolau Nadolig (Sain 1125D) yn Cerddoriaeth Cymru (Gaeaf 6: 3). Rhoir peth sylw i fesurau'r carolau gan Lady Amy Parry-Williams yn Canu Gwerin (1/1978), a chyhoeddir hen garol plygain a gafwyd yn Nhrealaw yn yr un rhifyn. Bu Mary Ellis yn trafod Thomas Williams, 'Eos Gwynfa' (Haul, Gaeaf, Rhif 5) a bûm innau'n trafod Eos Iâl, gan gyhoeddi testun ei 'Ar gyfer heddiw'r bore' (Cylch. Efengylaidd, Mawrth/Ebrill). Ac yn olaf, ceir arolwg hynod ddiddorol o hynt a helynt y carolau ar hyd y canrifoedd gan Dafydd Owen (T. 20/12). Gair bach i gloi. Bûm yn lloffa yng nghylchgronau'r Urdd ac yn Pais, ond heb ddarganfod yr un cyfeiriad ar ein hemynyddiaeth. Mae'n amlwg nad deunydd i'n gwragedd a'n plant mo'n hemynau! O fenaid gwêl addasrwydd Y Person rhyfedd hwn. Sut y byddech chi'n cyfieithu'r geiriau yna, pe bai galw arnoch. '0 my soul see the ie, gweld beth ? 'Appropriateness', suitabilitý, fittingness' neu 'how fitting"? Go brin. 'Meef a geir yn Saesneg feí rheol am 'ffrwythau addas\ Ond ni fyddai hynny fawr gwell. A beth wedyn this Persorì ? Prin fod hyn yn gwbl gymwys chwaith, oherwydd mae 'Persorì wedi hel ei adnoddau ei hunan yng nghylch a chefndir yr emyn Gymraeg. Anodd iawn fyddai cael gair. Efallai y medrai athrylith ailwampio'r cwbl a chreu rhywbeth tebyg i'r gwreiddiol heb golli ei symlrwydd a'i urddas, a chyfleu hefyd y rhywbeth tu hwnt i'w ddiffinio sydd yn y mydr. Ond byddai gwneud hynny'n gryn gamp. Fe wnaed llawer cais i gyfieithu emynau Cymraeg, ac mae cryn fedr yn rhai ohonynt. Ond mae'r emyn Cymraeg,-mae Williams ac Ann Griffiths, wedi mynd o'r golwg. Hywel D. Lewis yn Y Faner, 20 Gorff. 1979.