Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Casgliad S.R. i Hen ac leuainc Mae enw S.R. a sôn am ei gasgliad emynau yn britho sawl erthygl yn y rhifyn hwn o'r Bwletin peth digon gweddus o gofio i S.R. farw gan mlynedd yn ôl ym Medi 1885. Rhan o ffrwyth ei gwaith ymchwil ar gyfer traethawd MA (1984) ar lenorion plwyf Llanbryn- mair a'r cylch yw erthygl Angela Bennett ar Josiah Brynmair. Rwyf yn ddiolchgar iawn iddi hefyd am dynnu fy sylw at sylwadau helaeth ar gasgliad emynau S.R. a gyhoeddwyd gan S.R. ei hun ar amlenni'r Cronicl am Fedi 1848 (tt. 287-8). Diben y sylwadau oedd rhoi cyhoeddusrwydd i ail a thrydydd argraffiad ei Casgliad o dros Ddwy Fil o Hymnau. Argraffiad print bras oedd yr ail argraffiad. Y rheswm am hynny, yn ôl y rhagym- adrodd, oedd fel y byddai'n 'fwy defnyddiol ar astell yr areithfa, yn nghôr y cantorion, ar fwrdd yr addoliad teuluaidd, ac at wasanaeth hen bobl'. Er mai 'Mawrth 1, 1847' yw'r dyddiad sydd wrth y rhag- ymadrodd, mae'n amlwg mai newydd ymddangos yr oedd yr argraffiad hwn ym Medi 1848, oherwydd ceir y paragraff hwn tua diwedd y sylwadau yn Y Cronicl: Y mae yr Argraffiad Bras yn awr yn barod. Bu yn lled hir yn llaw yr Argraffydd, ond gwnaeth waith prydferth arno yn y diwedd. Bydd raid ei ollwng i danysgrifwyr, fel y crybwyllwyd, am 4s. 6c. wedi ei rwymo, ac am 4s. mewn papyr i'r cyfryw o honynt fydd yn dewis ei rwymo yn eu dull eu hunain. Anfonir y rhai a archwyd cyn gynted ag y daw y sypyn yn ol o Swyddfa y Rhwymwr o Lundain. Yn dilyn hyn, yn y paragraff olaf un, ceir rhai manylion ynghylch y trydydd argraffiad, sef yr 'Argraffiad Mân llogell y meibion a'r merched ieuainc, fel y'i gelwir. Dywedir ei fod yn y wasg 'a chaiff ei barotoi [sic] a'i gyhoeddi gyda phob brys galluadwy'. O ran pris, y bwriad oedd ei werthu 'mewn papyr cryf am swllt, ac mewn rhwym- iad tlws am ddeunaw'. Dyddiad rhagymadrodd yr argraffiad hwn oedd 'Mawrth 1, 1849', ac ynddo pwysleisir eto mai'r bwriad dros gyhoeddi'r argraffiad hwn mewn plyg llai a llythyren fanach na'r ddau argraffiad blaenorol oedd er mwyn 'ei gyfaddasu hyd y gellir at law a llogell a llygad gŵyr ieuainc a gwyryfon ein hysgolion a'n cynulleidfaoedd'. Ac mae'n amlwg y bu cryn alw am yr argraffiad hwn ymhlith yr ifainc, a barnu o sylwadau rhagymadrodd y ped- werydd argraffiad yn 1852. Yn hwnnw cymer S.R. y cyfleiddiolchi'r ieuenctid am eu cefnogaeth, gan egluro ei fod yn cyhoeddi argraffiad 1852 yn yr un plyg â'r un blaenorol am fod hwnnw wedi gwerthu mor gyflym yn wir, cyn cyflawni rhai o'r archebion amdano. Mae darn canol y sylwadau yn Y Cronicl ym Medi 1848 yn canu clodydd y casgliad, gan bwysleisio'r cyfoeth ac amrywiaeth a oedd ynddo o ran testunau a mesurau, yn enwedig yn wyneb y beirniadu a fu o rai cyfeiriadau fod y casgliad yn un rhy helaeth. Pwysleisir hefyd pa mor werthfawr a chyfleus oedd cael yr emynau wedi'u