Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

gosod yn nhrefn yr wyddor a chael rhif i ddynodi pob mesur. Ar yr un pryd, mae S.R. yn cydnabod y gallasai fod wedi gwneud y casgliad 'fymryn yn well' petai wedi gwneud rhai pethau yn wahanol wrth ei grynhoi, megis gadael allan rhai emynau o'i eiddo ei hun, ceisio mynnu cael gafael ar bob emyn yn y ffurf y daeth o law'r awdur, a gadael ambell emyn hir fel un cyfanwaith yn lle ei dorri'n ddau fel yr oedd wedi'i wneud. Ac, wrth gwrs, yr oedd hefyd wedi dod ar draws ambell emyn na wyddai amdano adeg y dethol gwreiddiol, y byddai wedi hoffi ei gynnwys. Cynhwysodd ddau fynegai ychwanegol yn y ddau argraffiad newydd, sef mynegai pynciol a mynegai i'r mesurau. Ond er mwyn i'r gwahanol argraffiadau cyfateb i'w gilydd yn hollol, dalen am ddalen, dywed ei fod wedi ymwrthod ag unrhyw newidiadau a fyddai'n drysu hynny. Fel rhagymadrodd hir i'r canmol hwn ar y casgliad, ceir gan S.R. ar ddechrau ei sylwadau yn Y Cronicl ddadansoddiad ystadegol o awduron y llyfr. Mae'n dechrau drwy nodi fod dros 600 o emynau'r casgliad o waith dau berson dros 300 yn waith Isaac Watts a bron i 300 yn waith Williams Pantycelyn. Yna treulia bron y cwbl o weddill tudalen cyntaf ei sylwadau yn rhestru awduron ei gasgliad. Cynhwyswyd tua 60 o emynau 'tra effeithiol' Richard Jones o'r Wern, a thua'r un nifer o salmau 'llithrig' Thomas Williams ('Eos Gwynfa'). Rhyw 30 ('a da pe buasai ychwaneg') o salmau Edmwnd Prys oedd yn y casgliad, tuag 20 o emynau 'hedegog' Ann Griffiths a thua 30 o emynau 'cryfion sylweddol' Benjamin Francis. O'r gweddill, yr oedd bron cant yn gyfieithiadau o'r Saesneg, tua phedwar cant yn waith beirdd Cymraeg, dros bum cant yn waith gweinidogion adnabyddus o wahanol enwadau, 'a'r gweddill, gan mwyaf, o waith awdwyr anadnabyddus'. Ond yr emynydd a gaiff y lle mwyaf anrhydeddus yn sylwadau S.R. ywThomas William, Bethesda'r Fro. Neilltuirparagraff hir i sôn amdano, gan restru'r holl emynau o'i eiddo yn ycasgliad. Ac i gloi, felly, dyma'r paragraff hwnnw areihyd: Cynnwys y Casgliad hefyd dros bedwar ugain o Hymnau teimlad Thomas Williams, Bethesda, Morganwg. Y mae rhy fach o son wedi bod am 'Ddyfroedd Bethesda.' Ni ddaeth erioed eu gloywach na'u melusach o Lan Geirionydd nac o Stoke Newington, o Faesyplwm nac o Bantycelyn. Maddeuer i ni am gyfeirio atynt,-30, 54, 55, 68, 91, 131, 164, 167, 238, 265, 279, 465, 468, 469, 563, 631, 635, 705, 725, 764, 777, 803, 805, 857, 881, 890, 931, 936, 939, 1006, 1028, 1035, 1039, 1041, 1050, 1069, 1091, 1101, 1106, 1108, 1122, 1129, 1130, 1194, 1206, 1215, 1323, 1409, 1414, 1416, 1455, 1485, 1490, 1497, 1517, 1545, 1550, 1570, 1613, 1622, 1642, 1643, 1644, 1660, 1711, 1719, 1721, 1729, 1737, 1740, 1743, 1744, 1752, 1761, 1784, 1856, 1865, 1900, 1982, 2011, 2068, 2076. Erfyniwn ar deulu athrylith a phrofiad droi atynt a'u darllen: a braidd nad antur- iem ofyn i'r Parch. W. Rees [Gwilym Hiraethog] un o feirn- iaid blaenaf yr oes am bigo allan bedwar ugain o'u gwell o faes yr un fyno o'r 'ddau gyntaf' [sef Williams a Watts].