Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

r Daw'n fuan orfoledd didd i'th ran Draw'n disgwyl mae'th geraint oddeutu y lan; Y dysglaer lys accw, dy hoff gartref yw, Mae Canaan yn ymyl, a'th Dad wrth y Llyw. Cwyd bellach dy hwyliau, mae'r awel o'th du, 'R wyt bron mydd i fynwes dy fwyn Brynwr cu Mae'th angor yn ddiogel, a'th Gadben yn fyw, Mae'th gwch yn y porthladd, a'th dad wrth y Llyw. Ymddangosodd y tri phennill olaf yng nghasgliad S.R. (1841), rhifau 1312 ac 1313, ac y mae Bedyddwyr ac Annibynwyr yn dra chyf- arwydd â hwynt. Rhoddwyd 'S.R.' yn awdur y penillion yng nghasgliadau emynau'r ddau enwad hwn eithr fe ymddengys mai cyfieithiad yw'r pum pennill o'r Saesneg. Bodedern. DAFYDD WYN WILIAM ôl-nodyn golygyddol Mae cerdd S.R. yn un a ddetholwyd yn bur aml i'w chynnwys ar y taflenni baledi pedair-ochr a oedd mor boblogaidd ym mhob rhan o Gymru'r ganrif ddiwethaf. Oherwydd ei hyd cymharol fyr, fe'i hargraffwyd fel arfer gyda cherdd arall hwy, ond weithiau gyda dwy gerdd fer arall. Yn ychwanegol at yr un o wasg Hugh Jones, Caer- gybi, digwyddais sylwi ar gerdd S.R. yn cael ei chynnwys mewn taflenni baledi o weisg W. Lloyd, Aberdâr (gyda 'Can Serch, sef Y Ferch o Landaf'); T. R. Davies, Abertawe (gyda 'Gwraig y Morwr'); P. Williams, Aberystwyth (gyda 'Galwad ar Ieuenctyd'); M. Jones, Caerfyrddin (ddwywaith unwaith gyda 'Gwraig y Morwr' ac unwaith gyda 'Can Newydd, PeniIIion o hiraeth Tadcu a Mamgu ar 01 eu Hwyres, yr hon oedd wedi myned i America'); H. Humphreys, Caernarfon (gyda 'Can ar Derfyn Blwyddyn'); J. Jones, Llanrwst (gyda chyfieithiad arall gan S.R., 'Caethiwed y Negroiaid, neu Gwynion Yamba'); A. Evans, Machynlleth (gyda'r ddwy gerdd 'Brawdlys Calfaria' a 'Yr Amddifad a'r Angel'); a T. Howells, Merthyr (deirgwaith unwaith gyda 'Cwyn Gwraig y Coliar', unwaith gyda 'Can, sef Cwynfan y Morwr', ac unwaith gyda 'Y Cyfamod Disigl'). Fe'i gwelais hefyd ar ddwy daflen baledi heb farc argraffydd arnynt, unwaith gyda 'Caniad ar Ddameg y Mab Afradlon' ac unwaith gydag 'Ymddiddan rhwng Morgan Jones a'i Gariad'. Digwyddais weld y gerdd hefyd mewn llyfr o adroddiadau a gyhoeddwyd yn ystod y ganrif ddiwethaf, ac arwydd o'i phoblog- rwydd yw ei bod wedi'i chynnwys yn netholiad Mr. E. G. Millward, Ceinion y Gân: Detholiad o Ganeuon Poblogaidd Oes Victoria (1983).