Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Dewi ab Didymus Ganwyd Dafydd Thomas, tad Ap Vychan (1809-80), ar 29 Rhagfyr 1782, yn Nhŷ'n-y-gwynt, Llangower, yn drydydd o naw plentyn Thomas a Margaret Roberts. Dywed Ap Vychan yn ei hunangofiant fod ei daid a'i nain 'yn aelodau yn Hen Gapel Llanuwchllyn, ac yn bobl dduwiol. Yr oeddynt yn dra gofalus am gynal i fyny addoliad teuluaidd. Arferent ganu emyn yn eu gwasanaeth crefyddol.' Yr arfer hwnnw, mae'n debyg, a barodd i'r mab gyfansoddi emynau yn ddiweddarach. Bu raid i Dafydd Thomas droi allan i weini ar ffermydd y fro yn ifanc, ar ôl cyfnod byr iawn o ysgol. Yn ôl Ap Vychan, Tair wythnos o ysgol ddyddiol a gafodd fy nhad, ond troes allan yn hunan-ddysgydd rhagorol. Deallai ramadeg iaith ei fam, rheolau barddoniaeth ei wlad, a chasglodd lawer o wybodaeth gyffredinol; ond rhagorai fel duwinydd. Ysgrifenai law deg a gwastadlefn, sillebau yn gywir, a chyfansoddodd aml ddernyn barddonol, caeth a rhydd, yn ei dymor, a chyhoeddwyd amryw o honynt. Ar ôl dod i weini ar un o ffermydd Penantlliw yn Llanuwchllyn, yn 1805 priododd Mary, merch Robert a Margaret Oliver, Ty-coch, yng nghysgod Castell Carndochan. Fe gofir i O. M. Edwards ysgrifennu am y Ty-coch yn Cartrefi Cymru, ac y mae'n werth troi at yr ysgrif i gael darlun da o'r tyddyn a'r teulu. Fe ddywed Ifan T. Davies wyr i Evan Davies, Ty-mawr, a Beti ei wraig ('y ddynes fwyaf deallus mewn duwinyddiaeth a welais i erioed,' meddai Ap Vychan), y ddeuddyn y bu Ap Vychan yn gweithio iddynt yn hogyn mewn ysgrif ar Dafydd Thomas yn Cymru IV (1893): 'I ddyn crefyddol, myfyrgar fel Dafydd Tomos, yr oedd Penantlliw Bach yn lle i'r dim iddo i ddadblygu ei alluoedd. Yr oedd y Crynwyr [yn y Ty-cerrig] wedi gwareiddio a chrefyddoli trigolion y cwm yn fore.' Ganed deg o blant i Dafydd a Mary Thomas a gwyddom o ddarllen hunangofiant Ap Vychan (y trydydd o'r deg plentyn) i'r teulu ddioddef oherwydd tlodi'r cyfnod. Gwyddom iddo ef a Margaret ei chwaer orfod mynd i gardota drwy rannau o Feirionnydd a cheir disgrifiad trist ganddo o daith gardota Evan ei frawd ac yntau i Aberystwyth un tro. Ar ôl symud o'r Ty-coch i Danycastell, a ailadeiladwyd gan ei dad, dyma sylw Ap Vychan: Yr wyf yn cofio mai ty newydd tlawd iawn oedd ein ty newydd ni a swllt yn y dydd, ar ei fwyd ei hun, oedd cyflog fy nhad yn yr haner gauafol o'r flwyddyn, ac yr oedd haner pecaid o flawd ceirch yn costio i ni ddeg swllt a chwe' cheiniog; felly, prin y gallem gael bara, heb son am enllyn, gan y drudaniaeth.