Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y mae Golygydd y Bwletin yn credu mai pennill un, llinellau 1-4, a phennill dau, llinellau 5-8 (sef y rhannau sydd wedi eu cymryd o emyn 217 yng nghasgliad S.R.) sy'n eiddo Dewi ab Didymus, ond byddai ef fel minnau yn falch o gael cadarnhad o hynny. Yn emyn 558 yn Y Caniedydd Cynulleidfaol Newydd (1921), ceir dau bennill dan y pennawd 'Crefydd a Ddeil', y cyntaf gan J. Pughe, Lerpwl, a'r ail gan D. Thomas, Garn Dochan. Gan na welais y pennill yn unman arall byddai'n dda clywed a ddaeth rhywun arall ar ei draws. Dyma'r pennill: Testun pennaf fy myfyrdod Fyddo Iesu difarwol glwy Yna ni wna byd o drallod Ddifa cysur fenaid mwy; Aros wrth Ei draed yn gyson, Edrych arnd'n talu Iawn: Hyn orchfyga fy ngelynion, Ac a rydd im' heddwch ttawn. Llanuwchllyn. W. J. EDWARDS Nodiadau Pellach ar Emynau Dewi ab Didymus Fe welir y tri emyn o waith Dafydd Thomas a gynhwysir yn Y Caniedydd Cynulleidfaol Newydd (1921), ac a drafodir uchod gan y Parchg. W. J. Edwards, mewn sawl casgliad emynau yn ystod y ganrif ddiwethaf, yn ogystal ag yn y casgliadau enwadol oddi ar ddiwedd y ganrif ddiwethaf a nodir gan Mr. Edwards yng nghorff ei erthygl: (a) Er mor chwerw dyfroedd Mara (emyn 927) Y tro cyntaf imi sylwi ar yr emyn hwn mewn print yw yn Y Dysgedydd am Dachwedd 1840, t. 350. Fe'i cyhoeddwyd yno yn bum pennill, (yn debyg i'r ffurf arno yn Cymru 1893 a atgynhyrchir yn erthygl Mr. Edwards). O dan yr emyn yn y fan honno ceir yr enw 'D. ab Didymus, Carn Dochan'. Detholwyd y ddau bennill sy'n ffurfio emyn 927 i Casgliad o dros Ddwy Fil o Hymnau Samuel Roberts, Llanbryn-mair yn 1841, rhif 566. Maent yn ddienw yno, fel gweddill emynau'r casgliad. Cynhwyswyd y ddau bennill hyn mewn rhai casgliadau eraill yn ystod y ganrif ddiwethaf. Sylwais arnynt yn Llyfr Tonau ac Emynau (1868) Tanymarian a J. D. Jones, Llyfr Hymnau y Bedyddwyr Cymreig (1878), Emynau y Cyssegr (1885) Thomas Gee, a'r Salmydd (1892) ac yn ddienw ynddynt oll. Ond fe'u ceir wedi'u priodoli'n gywir i Dafydd Thomas yng