Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

wraig hynod, Margaret Thomas o Gendl yng Ngwent neu, a rhoi iddi ei llysenw mwy cyfarwydd, 'Begws o'r Bala'. Fe'i derbyn- iwyd hi a'i brawd yn aelodau eglwysig yn yr Hen Gapel, Llanuwch- llyn, gan Dr. George Lewis yn 1809 flwyddyn a welodd ddiwygiad grymus iawn yno a daeth hi yn adnabyddus am ei gorfoleddu dwys ar adegau o ddiwygiad (gw. Henry Hughes, Bryncir, Hanes Diwygiadau Crefyddol Cymru, tt. 227-8, 360-2). Rhwng pob peth, felly, mae teulu Dafydd Thomas wedi gwneud cyfraniad clodwiw i hanes ein crefydd, ac nid y lleiaf o'r cyfraniadau hynny yw emynau Dafydd Thomas ei hun. E. WYN JAMES Mae'n gwbl addas inni gofio'r tân eirias a ledodd trwy Gymru oll yn y ddeunawfed ganrif. Canlyniad y Diwygiad hwnnw oedd y pregethu grymus, yr emynau eneiniedig, y gofal cymdeithasol, a'r 'Societies Profiad' a oedd yn glinig yr enaid ac yn gyfarwyddwr pererinion yn y dyddiau dedwydd hynny. Nid yw'r utgorn heddiw'n taro nodyn mor eglur; yr ydym yn parhau i ganu geiriau emynau Williams, Pantycelyn ac eraill, ond nid yw eu profiad hwy gennym ni; ac y mae'r llwybr i'r Seiat a'r Cyfarfod Gweddi wedi tyfu'n las iawn ym mhob rhan o'n gwlad. Glyn Tudwal Jones yn Y Goleuad 15/7/83 Fel John Thomas o'i flaen, gweinidogion a phrif arweinwyr y capeli anghydffurfiol oedd prif wrthrychau [y ffotograffydd Allen Lettsome]. Cai Lettsome yn aml drafferth fawr i gael llawer o'r hen biwritaniaid hyn i ymfodloni i gael eu lluniau wedi eu tynnu. Rhydd enghraifft glasurol o hyn, pan aeth i dynnu Hun o John Felix, y gweinidog Wesle a'i gyfaill, William Jones (1815-99), 'Ehedydd Iâl'. Yr oedd William Jones wedi ymdynghedu, mae'n debyg, na chai neb byth dynnu ei lun ef. Ymwelodd Mr. Lettsome â'i gartref yn Llan- degla, a thrwy ryw ryfedd wyrth, cafodd berswâd arno ef i ymweld â'i gyfaill, y pregethwr Wesle yn nhref Rhuthun. Wedi cwblhau'r weithred boenus, teimlai William Jones yn berffaith hapus, ac fe adroddodd i'r ffotograffydd ei bennill enwog: ‘Er nad yw 'nghnawd ond 2wettt a'm hesgyrn ddim ond clai'. D. Ben Rees yn Y Faner 9/9/83 I-gytsain sydd ar ddechrau gair fel 'iôr', ac o'r herwydd, ni rydd H o'i flaen mewn ambell dreiglad fel y'i ceir hyd syrffed yn ein llyfrau emynau a lleoedd eraill, pethau fel 'ein Hiôr'. tmrys tawaras yn isaraaas Jtuiagiyr 1983