Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Yr Hen Win Mewn Costrelau A J, Newydd Er diwedd y ddeunawfed ganrif cafodd llawer casgliad o emynau ei ddethol a'i gyhoeddi yng Nghymru. Fel y mae teitlau'r gwahanol lyfrau yn amrywio, diau fod yr amcanion wrth lunio pob casgliad yn gwahaniaethu ryw ychydig, ond gyda'r un bwriad sylfaenol iddynt oll, sef cyfoethogi'r addoliad cyhoeddus, ennyn diddordeb yn yr etifeddiaeth dda, ynghyd â'r dyhead am weld adfywiad ysbrydol. Wrth gostrelu'r emynau, rhaid cadw mewn cof yr elfen gynull- eidfaol-gymdeithasol, gan fod yr emyn yn gyfrwng torfol gwerthfawr (hyd yn oed yn ein dyddiau ni, a'r lleihad yn y nifer sy'n mynychu lle o addoliad). Yn ystod y ganrif hon cafwyd emynau cymdeithasol a chenedlaethol gwych, a thrwy'r emyn gellir cyflwyno'r dyhead hwnnw i godi 'baner i'r cenhedloedd' neu 'symud pla y gwledydd'. O'r ochr arall, yn y bywyd crefyddol heddiw mae'r cyfrwng seiadol yn un a esgeulusir yn fawr, ac y mae salmau ac emynau da yn werth- fawr er rhoi mynegiant i'r profiad personol mewnol. Wrth gasglu 'ffrwythau'r paradwysaidd dir', cafwyd o dro i dro deitlau da ar gasgliadau emynau, megis Grawnsypiau Canaan (casgliad Robert Jones, Rhos-lan, yn 1795) a Swp o Ffigys (casgliad Daniel Evans, Mynydd-bach, yn 1821); ond yn aml iawn mae'r ffrwythau sypiol wedi'u trwsio a'u tocio, fel masnachwr yn rhoi ffrwythau yn drefnus mewn bocs fesul un. Ac yn y broses honno, o hyd ac o hyd, collir peth o rin y sypiau. Tuag 1833 aeth Samuel Roberts, Llanbryn-mair (ardal enwog am ei gweithgarwch emynyddol) ynghyd â chasglu detholiad sylweddol iawn o emynau. Cyhoeddwyd ei Casgliad o dros Ddwy Fil o Hymnau yn 1841, gydag argraffiadau eraill yn 1847, 1849, 1852, 1858, 1862, 1866, ac 1867. Wrth sôn am ei weithgarwch mawr mewn cyfeiriadau eraill, ni ddylid anghofio gwasanaeth S.R. i emynyddiaeth Gymraeg. Dyma ran o'r hyn sydd ganddo i'w ddweud am ei gasgliad yn ei ragymadrodd iddo: Ymdrechwyd ei wneuthur yn gynnwysfawr; a cheir fod ynddo gryn amrywiaeth o Faterion a Mesurau. Wrth ganfod » gormodedd o bapur gwag ar ymylau y dail mewn llawer o Emyn-lyfrau, rhoddwyd dwy golofn, yn lle un, ar bob wyneb dalen Cyflëwyd yr Emynau ynddo yn ol Trefn yr Egwyddor; a gellir eu cael, os yn cofio eu dechreu, yn yr un dull, a chydag yr un hawsder, ag y ceir geiriau mewn Geiriadur; ac felly arbedir Dangoseg o dros ddwy fil 0 linellau, a cheir lle ychwanegol drwy hyny i dros gant o Emynau Ceir Mynegai b o'r Testunau yn y diwedd, ac ymdrechwyd i eirio pob testun mewn oddeutu chwech o sillau, fel y gellid argraffu Rhif, Testun, a Mesur pob Emyn mewn un linell yn lle dwy, ac wrth hyny arbedir yn mhellach dros ddwy fil 0 linellau