Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Dal i ddod i'r golwg y mae fersiynau mydryddol o Salm 23. Y diweddarafyw aralleiriad gan Robert Owen ('Eryron Gwyllt Walia'; 1803-70). Dyma'r trigeinfed mydryddiad o'r salm hon i gael ei gyhoeddi ar dudalennau'r Bwletin! Yr Arglwydd yw fy Mugail llon, Ni adfiod eisiau tanfiy mron; Caf wleddoedd pur, pereiddiafflas, Yng nglân borfeydd efengyl gras. Fe dywysfenaidyn ei law I blith y dyfroedd tawel, draw, lachusol ffrydiau, disglair wedd, Bendithion y Cyfamod hedd. Er crwydro 'mhell, yn wael fy llun, Fe ddychwel f'enaid atd'i hun; Fy achub wnaeth — i'm harwain bydd Ar hyd sancteiddiol lwybrau'r ffydd. Trwy ddyffryn angau, awn, am hyn, Heb ofni niwed yn y glyn — Dy air i'm dal—cadarnach yw Na'm holl elynion cryfaf ryw. Diwelli f'enaid â dy ras, Yng ngŵvydd fy ngwrthwynebwyr cas; Er maint eu cyffro, nos a dydd, Dy ddoniau i'm cylchynu sydd. Daioni a thrugaredd rad I'm canlyn fiydd trwy'r anial wlad; Yn nhŷ fy Nuw, er llid a chroes, Preswylio wnaf holl ddyddiaufoes. Yn rhifyn diwethaf y Bwletin (t. 222), yn ychwanegol at nifer o fydryddiadau o'r salm, cyhoeddwyd cyfieithiad y Parch. W. Rhys Nicholas o fersiwn cyfoes o'r salm gan Siapanead. O'r Tyst yn 1977 y daeth y cyfieithiad hwnnw, ond dylid nodi fod fersiwn diwygiedig o'r cyfieithiad i'w gael yng nghyfrol Mr. Nicholas, Cerddi Mawl (Tŷ John Penry, 1980). Salm XXIII E.W.J.