Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Uoffa 1984 Gan y Golygydd Roedd gwledd yn disgwyl y sawl a aeth i gyfarfodydd Undeb yr Annibynwyr yng Nghaerdydd ar brynhawn Mercher, 13 Mehefin 1984. Y prynhawn hwnnw traddodwyd y Ddarlith Dyfnallt gan yr Athro Gwyn Thomas. 'Arfer Cyffelyb- iaethau' oedd testun y ddarlith gyfoethog honno (sydd bellach wedi'i chyhoeddi'n llyfryn), ac ynddi mae'r Athro yn trafod rhai delweddau a chyffelybiaethau sydd i'w gweld mewn llenyddiaeth grefyddol dros y canrifoedd, gan gynnwys ein hemynyddiaeth wrth gwrs. Yn gynharach yr un prynhawn cafwyd cyfarfod cyhoeddus gyda Dr. R. Geraint Gruffydd a Dr. Glyn Tegai Hughes yn annerch ar wahanol agweddau ar waith Pantycelyn (T. 5/7),* ac fe gyhoeddwyd y ddwy ddarlith nodedig hyn yn ddiweddarach yn llawlyfr adroddiadau'r Undeb. Yn ystod y flwyddyn cafwyd rhai adol. ar lyfr Dr. Glyn Tegai Hughes ar Williams Pantycelyn yn y gyfres 'Writers of Wales' (Cylch. Hanes Cymru Rhag., Gwyl- iedydd 26/1). Cafwyd adol. ar y gyfrol gan Dr. Derec Llwyd Morgan yn rhifyn Ebrill Y Traethodydd, ac yn ystod y flwyddyn fe gafwyd hefyd nifer o adol. ar lyfr Dr. Morgan ar Bantycelyn yn y gyfres newydd 'Llên y Llenor' (T. 19/1, Llais Llyfrau Gwanwyn, C. 10/1, B. Chwef., Athro Mawrth, Traeth. Gorff., Cristion Gorff./Awst). Ceir cyfeiriadau at Bantycelyn ac at Thomas Jones, Dinbych, yn erthygl Derec Ll. Morgan ar Ann Parry, Bryn Mulan (Traeth. Ion.), a chafwyd adol. ar Cefn- arthen gan Rhys Davies (Llais Llyfrau Haf), cyfrol sy'n sôn am deulu ac ardal Williams. Trafoda Gwyndaf Jones ddylanwad Calfin a'r Piwritaniaid ar ddiwinyddiaeth Pantycelyn (Traeth. Gorff.). Yn Y Faner am 2.11.1984 ceir dyfyniad o'r un papur am 29.10.1884 yn sôn am y bwriad i godi cofadail i Williams. Cyfeiria Bobi Jones at waith Pantycelyn wrth drafod cyweiriau'r iaith lenyddol (Barddas Rhag. '84/Ion. '85), a sonia loan Williams am ddylanwad Williams ar 'Swn y Gwynt sy'n Chwythu' yn ei gyfrol Kitchener Davies (Cyfres Llên y Llenor). Mae J. Mehille Jones yn adrodd y traddodiad i Williams gyfan- soddi 'Cul yw'r llwybr imi gerdded' wrth ddringo llethr serth ger Soar-y-mynydd (Enfys Gorff.) a dyfynnir pennill gan Williams sy'n cyfeirio at swn pandy mewn erthygl ar bandai yn Cylch. Cymdeithas Hanes Sir Feirionnydd. Ceir tri emyn o waith Williams yn llyfr newydd y Wesleaid, Hymns andPsalms (Gwyliedydd 12/7), a chyfeiriad byr ato gan Ruth Bidgood mewn erthygl ar ardal Abergwesyn (Brycheiniog XXI). Dau draethawd ymchwil y dylid fod wedi tynnu sylw atynt o'r blaen yw traethawd MTh Stephen J. Turner (brodor o Seland Newydd), 'Theological themes in the English works of Williams Pantycelyn' (Aberystwyth, 1982) a thraethawd MA Siân Megan, 'Gwaith Ann Griffiths testun a chefndir' (Llanbedr, 1981), y seiliwyd ei chyfrol Gwaith Ann Griffiths arno, wrth gwrs. Dyfynna Gwilym R. Jones nifer o linellau cofiadwy gan Williams ac Ann Griffiths (Barddas Ion.), ac yn Barddas Mai, ceir englyn i Ann Griffiths a dyfyniad o gywydd i Ddolanog. Mae lona Trevor Jones yn sôn am gyfarfod i goffáu Ann Griffiths yn Llanfyllin (Curiad Tach./Rhag.), ac yn Y Casglwr (Nadolig) sonia Helen Ramage am lwyau arian Dolwar. Aeth rhai Bedyddwyr ar bererindod i wlad Ann (S. 9/11), ac yn Cristion (Tach./Rhag.) tyn F. M. Jones sawl cymhar- iaeth rhwng gwaith Ann a chrefyddwyr eraill, rhai ohonynt o draddodiadau pur wahanol. Bu Huw Ethall a Nia Rhosier yn trafod ystyr yr emyn 'O! na bai fy mhen yn ddyfroedd' (T. 16/8, 6/9). Cafwyd llythyr dychmygol at Ann Griffiths ynghylch cyflwr yr eglwysi heddiw (Treasury Maw. '82) a dywedir fod Mici Plwm yn gallu olrhain ei achau i Ann Griffiths a Llew Tegid (F. 13/4). Cafwyd ysgrifau gan Tomos Richards ar Ann Griffiths (T. 26/7) a John Hughes Pontrobert (Ll. 12/10) a chafwyd cyfeiriadau lawr at Hen Gapel John Hughes a'r cynlluniau i'w *Byrfoddau: B. Barn; C.— Y Cymro; F.— YFaner; G.-Y Goleuad; Ll—YLlan; S.-Seren Cymru; T.-Y Tyst. Cyfeirir at y dyddiad a'r mis yn unig.