Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

o Gernyw sydd fel arfer yn cael y clod am gychwyn yr arferiad), a'r ffaith fod yn eglwys Bryn-gwyn ym Maesyfed un o'r clychau hynaf yng Nghymru, yn dyddio yn ôl i'r flwyddyn 1200. Ac i orffen dramor. Cafwyd cerdd gan Gwilym R. Jones i alaw gan J. S. Bach (B. Hyd.), noda Ian Parrott ddylanwad canu emynau Cymraeg ar gyfansoddiad gan Elgar (Cerddoriaeth Cymru Haf), clywyd Tôn y Botel a Rhyd-y-groes yn cael eu canu yn Rwsia (C. 25/9), a sonia Wyn Lodwick am hoffter Louis Armstrong o'r dôn Aberystwyth (F. 20-27/4). Bu côr o hen faes cenhadol y Presbyteriaid yn yr India ar ymweliad â Chymru, a chafwyd adroddiadau o'u taith, ynghyd â pheth o hanes y genhadaeth, yn ystod y flwyddyn (G. 2/3, 9/3, 30/3, 6/4, 13/4, 18/5, 25/5, 1/6, 29/6, 6/7, 27/7, 17/8, 14/9; Gwyliedydd 31/5; Treasury Mai; Cylch. Efengylaidd Medi/Hyd.). Cafwyd coffád i Jack Meadows, ysgrifennydd cymdeithas y Gymanfa Ganu Genedlaethol yng ngogledd America rhwng 1968 ac 1983 (Enfys Hyd.) a thynnwyd sylw at gystadleuaeth am emyn heddwch a drefnwyd gan Gymdeithas Emynau America (G. 7/12). Cyfeiriais mewn erthygl yn rhifyn diwethaf y Bwletin at rai eitemau perthnasol i Gymru yng nghylchgronau cymdeithasau emynau America a Phrydain, ond at y rhain gellid ychwanegu cyfeiriadau at Pantycelyn ac Alan Luff a hanesyn am ledio emyn yng Nghymru yn Bulletin yr 'Hymn Society' Prydeinig (rhifynnau 160, tt. 179, 193, a 161, tt. 198, 212). A diddorol hefyd yw darllen erthygl mewn cyfres ar emynydd- iaeth ethnig yn The Hymn (Ebr.), sy'n disgrifio canu'r 'Old Order River Brethren', grŵp crefyddol bychan o dras Almaenig yng nghanolbarth Pennsylvania a darddodd o ddiwygiadau'r ddeunawfed ganrif ac sydd yn hynod geidwadol eu dulliau addoli yn parhau i gyfarfod mewn ysguboriau, i ganu'n ddigyfeiliant, ac i gynnal seiadau profiad digon tebyg i rai Methodistiaid Cymru'r ddeunawfed ganrif, gyda phob tystiolaeth yn cael ei rhagflaenu gan bennill o emyn o ddewis y person sy'n mynd i siarad. Mi wn fod yna enghreifftiau o dreiglo berfenw cyfansawdd ar ôl yn mewn rhai testunau llenyddol. Dyna Pantycelyn, er enghraifft, yn un o'i emynau mwyaf, 'Pam y caiff bwystfilod rheibus'. Yn nhrydydd pennill y gerdd fawr hon mae Williams yn sôn am berer- indod y Cristion o gaethiwed Babilon i Ganan. Blinais ar afonydd Babel, Nid oes yno ond wylo i gyd, Llais telynau hyfryd Seion Sydd yn gyson dynnu 'mryd 'Sydd yn gyson dynnu 'mryd' oedd gan Williams. Ond berfenw cyfansawdd yw cyson-dynnu, ac felly 'Sydd yn cyson-dynnu 'mryd' sv'n evtûn â rheol ac arfer v Gvmraee. Bedwyr Lewis Jones yn Y Faner 1-8/4/83 Sylwodd y Llywydd [George John] fod yr emynwyr yn hoff iawn o gyfeirio at Grist fel meddyg: 'Ó fy Iesu'r Meddyg Da meddai J. Gwyndud Jones, Penrhyn- deudraeth; 'Cofia'r byd o Feddyg Da oedd gweddi J. T. Job; 'Dyma Geidwad i'r colledig, Meddyg i'r gwywedig rai oedd neges Morgan Rhys. Seren Cymru 3/8/84