Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

O'r Wasg Nid drwg o beth chwaith i adnewyddu'r ysbryd llesg yw gwrando ar sumffoni gyfoethog ein hemynwyr yn canmol eu Harglwydd- Dafydd Jones o Gaeo, Williams Pantycelyn, Morgan Rhys, Dafydd Wiliam, Thomas Wiliam, Ann Griffiths, Robert ap Gwilym Ddu* Gwilym Hiraethog, Dyfed ac Elfed, a llawer un arall ohonynt. Felly y daw 'llythrennau'i enw pur' yn 'fywyd ac yn hedd' i ninnau. Fel hyn y mae magu'r hiraeth am gael 'tragwyddol syllu ar y Person' a'n galwodd ni o dywyllwch i oleuni ac a roes inni waith i'w wneud. R. Tudur Jones yn Y Tyst 14/4/83 Pwysleisia'r awdur [Derec Llwyd Morgan yn Y Diwygiad Mawr] y cyswllt a oedd rhwng y Beibl a'r emynau a'r ffordd y cadwodd yr emynau'r Crist yn Grist Byw o flaen llygaid y sawl a'u canent, ie, ac a'u dysgent, oblegid daeth y Llyfr Emynau i'r Methodist yr hyn a oedd Y Llyfr Gweddi Gyffredin i'r Anglicanwr, neu'r hyn a ddylasai fod iddo. Bu amser ac nid oedd hwnnw mor bell yn ôl â hynny, pan oedd aelodau'r eglwysi ymneilltuol yn berchen ar lyfr emynau ac yn mynd ag ef dan y gesail i'r gwasanaethau. Arwydd o'r newid a ddaeth dros bethau yw bod llawer ohonynt bellach yn codi'r llyfr yn y cyntedd wrth fynd i mewn ac yn ei adael yno wrth fynd allan. J. E. Caerwyn Williams yn Taliesin Awst 1983 Cyn i neb ddadlau fod yr Eglwys yng Nghymru yn Seisnigeiddio, dylid cofio [mai] Capel Saesneg yw Capel coffadwriaethol y Pêr Ganiedydd! Rhyfedd o fyd! Peter R. Williams yn Y Llan 16/9/83 Felly, deuwn at ddarlun arall ohono [Gwilym Hiraethog] fel Tad y Ddarlith Gymraeg, cyfrwng arall iddo drosglwyddo'i syniadau. Nid Gwilym Hiraethog gychwynnodd yr arferiad ond ef a fu'n gyfrwng i dorri tir newydd a gwneud y ddarlith yn atyniad poblogaidd. Yn Lerpwl y traddodwyd y ddarlith gyntaf ar nos Fercher, Tachwedd y 25, 1846 yn y Concert Hall, Lord Nelson Street. Dewiswyd David Davies, Paradise Street, gwr amlwg o blith y Cymry, fel Cadeirydd a gwerthwyd y tocynnau ymlaen llaw gan farsiandwyr yn Stanhope Street, Mill Street, Brownlow Hill a Tithebarn Street, Cyhoeddwyd rhaglen a phosteri i hysbysebu'r amgylchiad a thyrrodd y Cymry yn eu cannoedd i lenwi'r neuadd. Am ddwy awr, darlithiodd Gwilym Hiraethog ar y Perganiedydd. Mae hon yn batrwm o ddarlith ac fe'i cyhoeddwyd ar ôl ei farw. Meinwen Rees yn Barn Mehefin 1983