Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

COFNODION PWYLLGOR Y GYMDEITHAS, 1984 Cofnodion pwyllgor blynyddol y Gymdeithas a gyfarfu 8 Awst, 1984 yn Shiloh, Llanbedr Pont Steffan. Ynbresennol: Y Doethuriaid R. Geraint Gruffydd (Llywydd), E. D. Jones, a Hywel M. Griffiths; Y Parchg. Tudor Davies; y Mri. E. Wyn James, Alun W. G. Davies, a Gareth O. Watts, a'r Ysgrifennydd. 1. YMDDIHEURIADAU Derbyniwyd ymddiheuriadau oddi wrth Mr. Huw Williams a'r Parchgn. W. Rhys Nicholas a Dafydd Wyn Wiliam. 2. COFNODION Darllenwyd a derbyniwyd cofnodion y pwyllgor diwethaf, Awst 1982. 3. MATERION YN CODI (i) Methwyd cytuno â'r amseriad a gynigiwyd i'r Gymdeithas gyfarfod eleni ar y Maes, ac felly derbyniwyd festri Shiloh. (ii) Dywedodd y Dr. E. D. Jones fod mater cofrestru fel elusen wedi'i drafod o'r blaen, ac nad oedd raid gwneud dim yn ei gylch. Byddai'r ohebiaeth ymysg gohebiaethau'r Gymdeithas pan oedd y diweddar Barchg. Eirwyn Morgan yn Ysgrifennydd. (iii) Nid oedd y panel golygyddol wedi cyfarfod. (iv) Darlith 1983: Gan fod y Parchg. Dafydd Wyn Wiliam wedi tynnu'n ôl ar rybudd byr, mewn ymgynghoriad â'r Llywydd trefnodd yr Ysgrifennydd i'r Parchg. J. R. Roberts, Llanfwrog, ddarlithio i'r Gymdeithas ar destun o'i ddewis. 4. ADRODDIAD YR YSGRIFENNYDD Dechreuodd yr Ysgrifennydd drwy ymddiheuro am y diffygion yng ngweinydd- iaeth y Gymdeithas yn ystod y flwyddyn, ac yn arbennig am fethu cael pwyllgor yn ystod Prifwyl Môn. Adroddwyd mai aelodaeth y Gymdeithas ar hyn o bryd yw 272. Mae llyfr- gelloedd a sefydliadau tebyg yn cyfrif am 25, felly gwelir mai prin 250 yw nifer yr unigolion sy'n aelodau. Cafwyd dadansoddiad daearyddol o'r aelodaeth: Gwynedd 63; Clwyd 23; Powys 7; Gwent 6; Dyfed 78; Morgannwg 23, heb gynnwys Caerdydd 32, ac Abertawe 24. Mae cyfanswm Dyfed yn cynnwys Caerfyrddin a Llanelli 28, ac Aberystwyth 21. Yr un modd mae cyfanrif Gwynedd yn cynnwys Bangor, Môn a Chaernarfon 44. Pa bryd y daeth y rhain yn aelodau? Ymaelododd 107 yn y flwyddyn 1973 neu cyn hynny, a'r gwir yw mai ychydig iawn a enillwyd wedyn: 1974, 18; 1975, 36; 1976, 0; 1977, 12; 1978, 22; 1979, 8; 1980, 7; 1981, 5; a 1982-83, 16. Yr oedd dyledion aelodau'r Gymdeithas yn achos pryder. Yr oedd 8 aelod mewn dyled o jE4,11 aelod mewn dyled o £ 3, 27 aelod mewn dyled o £ 2, a chynifer â 41 heb dalu am y flwyddyn ddiwethaf. Yr oedd hyn yn gyfanswm o £ 160, ac yr oedd colled llogau ar raddfa 10% ar y ddyled hon dros y pedair blynedd yn £ 37.60. Ym mis Gorffennaf anfonwyd llythyr at y sawl oedd mewn dyled o £ 2 a throsodd. Hyd yma ymatebodd 17, a derbyniwyd cyfanswm o £ 50 (yn cynnwys rhai rhoddion), gan ostwng y dyledion i £ 81. Eithr wrth dalu eu dyled ymddi- swyddodd rhai o'r Gymdeithas.