Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Tri Brawd o Droed-y-rhiw Fel y gellid disgwyl cynhwyswyd emyn-dôn arobryn y diweddar J. Haydn Phillips, Bro Aber, yn yr atodiad newydd i Iyfr emynau a thonau'r Methodistiaid. Brodor o Aber-fan oedd John Haydn Phillips, a bu farw ar 4 Medi 1985, wedi salwch hir, yn 68 oed. Cyfan- soddodd donau ac anthemau lawer, a bu'n fuddugol yng nghystadleuaeth yr emyn-dôn yng Ngŵyl Fawr Aberteifi yn 1977 ac yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn 1983 ac 1984. Roedd yn adnabydd- us hefyd fel arweinydd corau a chymanfaoedd canu, ac yn ysgrifen- nydd cymanfa ganu Methodistiaid Calfinaidd Merthyr Tydful a'r cylch ryw 18 mlynedd. Tua milltir tan y cwm o Aber-fan i gyfeiriad Merthyr mae pen- tref Troed-y-rhiw. Ceir tôn gan frodor o'r pentref hwnnw yn yr atodiad hefyd, sef Daniel gan Mr. Emlyn Williams, Y Barri; ac yn 1979 bu yntau, fel Mr. Phillips ar ei ôl, yn fuddugol yng nghystadleuaeth yr emyn-dôn yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Un o dri brawd cerddgar yw Emlyn Williams. Bu Maldwyn, yr hynaf o'r tri, yn fuddugol yng nghystadleuaeth yr emyn-dôn yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn 1978. A rhwng y ddau frawd yma a Mr. John Haydn Phillips, bu rhywun yn hanu o'r rhan hon o Gwm Taf yn fuddugol yng nghystadleuaeth yr emyn-dôn yn yr Eisteddfod Genedlaethol bedair gwaith rhwng 1978 ac 1984. Mr. Meirion Williams yw'r trydydd brawd. Wedi bod yn athro yn Llundain a Gwlad yr Haf, bu'n athro mewn ysgolion yng Nghwm Taf o 1958 hyd ei ymddeoliad. Mae'n byw yn hen gartref y teulu yn Angus Street, Troed-y-rhiw, yn flaenor ac arweinydd y gân gyda'r Methodistiaid Calfinaidd yn y pentref, ac yn frwd ei gefnogaeth i bob peth Cymraeg. Dyma ef i roi peth o hanes ei ddau frawd, Maldwyn ac Emlyn. Ganwyd fy mrawd, Maldwyn Roberts Williams, yn Nhroed-y-rhiw, Merthyr Tudful, ar 23 Medi 1904, yng nghanol gwres y Diwygiad. Ef oedd yr hynaf o dri mab fy rhieni, Lefi a Margaret Ellen Williams. Un o Lanidloes oedd ein mam yn wreiddiol, a'i thad hi o Fryn-crug ym Meirionnydd — dyna paham y'm galwyd i 'Meirion' a'm brawd 'Maldwyn'. Un o dre Merthyr oedd ein tad, a braidd yn brin ei Gymraeg cyn priodi. Ond ymdrechodd i ddod yn Gymro rhugl, ac ar adeg pryd yr oedd y tueddiad ar garlam gwyllt yn ein pentref i rieni Cymraeg fagu eu plant yn ddi-Gymraeg — fe'n codwyd ni yn Gymry Cymraeg uniaith hollol (nes mynd i'r ysgol, a chael ein dysgu yn gyfan gwbl trwy gyfrwng y Saesneg a hynny gan Gymry Cymraeg yn ysgol y babanod!). Addysgwyd Maldwyn, fel y ddau arall ohonom, yn yr ysgol leol ac yn Ysgol Castell Cyfarthfa ym Merthyr. Prentisiwyd ef yn fferyllydd yn Aberaman, Aberdâr, ond gadawodd ar ôl dwy flynedd a hanner, trwy gytundeb, wedi marwolaeth ei ewythr, y Parchg. Richard Roberts, Glyn- corrwg, a oedd wedi cytuno i'w noddi yn ystod ei brentisiaeth. Tua 1924 y digwyddodd hynny. Aeth ar ei union i Lundain a chael amryw o swyddi fel fferyllydd didrwydded mewn gwahanol siopau yno.