Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Un o ffefrynnau John Wesley oedd merch ifanc o'r enw Hester Ann Roe o Macclesfield. Hi, yn briod â'r pregethwr James Rogers erbyn hynny, oedd un o'r gwylwyr wrth ei wely angau, ond pymtheng mlynedd ynghynt roedd Wesley yn argyhoeddedig ei bod hi yng ngafael y dicáe. Dyma frawddeg o'i lythyr ati ar 3 Mai 1776: 'I am afraid I shall hardly ♦Darlith Flynyddol Cymdeithas Emynau Cymru am 1987, a draddodwyd ar ddydd Mercher, 5 Awst 1987, ym Mhabell y Cymdeithasau ar faes Eisteddfod Genedlaethol Bro Madog. Pantycelyn: Emyn yr Ardd* gan Glyn Tegai Hughes Mi bellach goda ma's Ar foreu glas y wawr, I weld y blodau hardd Sy ngardd fy IESu mawr; Amrywiol ryw Rasusau pur, A ffrwythau'r baradwysaidd dir. Edrychwch draw i'r De', A'r Gogledd y mae Rhes, O harddach breniau Lliw Pa fwya b'om yn nes; Eu peraidd Flas, a'u 'rhoglau llawn Sy'n dangos nefol, ddwyfol ddawn. O anghyffelyb Flas! O amrywioldeb Lliw! Hyfryda erioed a gad Ar Erddi Gwlad fy Nuw! Hi Gilead fwyn a'i rhoglau pur Bereiddiodd awel Canaan dir. Mae'r Pomgranadau pur, Mae'r Peraroglau rhad Yn magu hiraeth cry, Am hyfryd Dy fy Nhad; O Salem bur! O Seion wiw! Fy nghartre i, a chartre'm Duw. 'Does Ie i aros dim, Mi glywa Rym y Ne', 'N awr yn fy ngalw i mlaen Yn fuan atto fe; Ffarwel ffarwel ddeniadau'r byd! Methodd eich tegwch fynd a'm mryd.