Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

safbwynt arall, y mae yn llygad ei le. O'u cysylltiadau ysgrythurol y mae'r delweddau o'r byd naturiol yn ennill eu hygrededd yng ngolwg y gynulleidfa, a'r cefndir beiblaidd hyn sy'n cyfrannu dimensiwn ychwanegol i'r ieithwedd, yn sefydlu ac yn sobri, ac ar yr un pryd yn ysbrydoli. (Cofier fel yr oedd Calfiniaeth gynnar yn drwgdybio unrhyw emynau nad oeddynt yn gwbl seiliedig ar Air Duw.) Ond, wrth gwrs, y mae Pantycelyn yn mynd gam ymhellach. Ei orchest yw llwytho'r termau garddwriaethol, meteorolegol, daearyddol, arogliadol hyn ag ystyron ac awgrymiadau ysbrydol a hynny heb eu gwacáu o'u hanianolaeth; priodi arogl y blodau â grasusau'r saint, harddwch lliwgar y byd â'r profiad o oferedd; troedio'r ffin rhwng y synhwyrau a'r enaid, rhwng natur a datguddiad; cyfuno emyn llyfr ac emyn yr awyr agored, emyn tirlun ac emyn traddodiad. O anghyffelyb Flas! O amrywioldeb Lliw! Hyfryda erioed a gad Ar Erddi Gwlad fy Nuw! ^The Letters of John Wesley, gol. John Telford, Llundain, 1931, VI, t. 216. 2Yr ail argraffiad, Llundain, 1682, t. 97. 3e.e. James Wheeler, The Botanists' and Gardeners' New Dictionary according to the System ofLinnaeus, Llundain, 1763; neu John Abercrombie, The Gardener's Pocket Dic- tionary; or, a Systematic Arrangement ofTrees, Shrubs, Herbs, Flowers and Fruits; agreeable to the Linnaean Method, tair cyf., Llundain, 1786 (roedd hwn yn Llyfrgell Trefeca). AGweithiau William Williams Pantycelyn, I, gol. Gomer Morgan Roberts, Caerdydd, 1964, t. 95. Fe gyfeirir ato fel GWWP I o hyn ymlaen. 5Derec Llwyd Morgan, Y Diwygiad Mawr, Llandysul, 1981, tt. 206-24. Y mae hi'n werth sylwi hefyd fel y mae Pantycelyn, wrth sôn am gyfeillach Duw a'i addewidion yn y llythyr olaf at Thomas Charles, 1 Ionawr 1791, yn dyfynnu o'i gof adnodau ysgrythurol sy'n alegoreiddio'r winllan a'r ardd fel arwydd o ofal Duw: 'Esa. 27.3 Myfi yr Arglwydd ar bob moment y dyfrhaf hi [y winllan], cadwaf hi nos a dydd heb i neb ei drygu, ac Esa. 38 [ = 58]. 11 A thi fyddi fel gardd wedi dyfrhai (Gomer Morgan Roberts, YPêr Ganiedydd, I, Aberystwyth, 1949, t. 171). ^GWWP I, t. 75. 7GWWP I, t. 65. BGWWP I, tt. 45-6. William Derham, Astro-Theology: or, a Demonstration of the Being and Anributes ofGod, from a Survey of the Heavens, ail arg., Llundain, 1715, t. lvi: 'But now the next Question commonly put is what Creatures are they inhabited with? But this is a difficulty not to be resolved without a Revelation, or far better instruments than the World hath hitherto been acquainted with.' 9Yn rhagymadrodd Calfin i Feibl OHvétan; troswyd o Francois Wendel, Calvin, Paris, 1950, t. 118. Am drafodaeth ar Lyfr Natur gweler Ernst Robert Curtius, European Literature and the Latin Middle Ages, cyf. Willard R. Trask, Efrog Newydd, 1953, tt. 319-26; ac Erich Rothacker, Das 'Buch der Natur' gol. W. Perpeet, Bonn, 1979. Gweler hefyd 'Y Greadigaeth yn Arwyddlun' [gan John Jones, Pwllheli], Y Traethodydd, xxi (1866), tt. 450-3. IORichard Baxter, Gildas Salvianus: The Reformed Pastor (1656); dyfynnwyd o'i Practical Works, Llundain, 1830, XIV, t. 218.