Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ffermio ers dros ddau can mlynedd, a lIe bu'r Bedyddwyr cynnar (yn ôl y sôn) yn cynnal cyfarfodydd cyfrin yn ystod yr erledigaeth yn yr ail ganrif ar bymtheg. Roedd ei dad yn un o sefydlwyr capel Penuel, Rhymni (capel Ioan Glan Aled a Mathetes wedyn) a bu Abel ei fab yn ddiacon yno ar ei ôl. Ni wyddys ymhle y cafodd ei addysg, ond roedd yn wr dysgedig, ac yn 1862 cyhoeddodd y gyfrol, Crybwyllion am Ddechreuad y Bedyddwyr ym Mlaen Cwm Rhymni. Yn ôl J.S. Jones, awdur Hanes Rhymni a Phontlottyn, byddai Abel Edmunds yn bardd- oni'n achlysurol, ond ei ddiddordeb mawr, mae'n debyg, oedd cyfan- soddi emynau. Eto dim ond un emyn o'i eiddo sydd ar gael erbyn hyn, ac nid emyn ychwaith a dweud y gwir, ond yn hytrach 'Carol Nadolig'. Dyma'r rhan gyntaf ohoni: Hil Adda o un fryd, Nesewch a dewch ynghyd I gadw gwyl i gyd: I feusydd Judah gyda'r wawr, Daeth newydd o lawenydd mawr, Am Geidwad wedi ei eni, I achub llwch y llawr. Nid yw'n hysbys a oedd Daniel Jones, Tredegar (1788-1848) yn enedigol o Went ai peidio, ond mae'n un o'r ychydig emynwyr o'r sir nad oedd yn weinidog sydd ag un o'i emynau wedi parhau'n boblogaidd hyd heddiw. Yn anffodus, ychydig iawn o wybodaeth sydd ar gael amdano ac eithrio'r ffaith ei fod yn aelod gyda'r Annibynwyr yn Saron, Tredegar. Yr oedd Saron yn ei amser ef yn gapel dylanwadol. Agor- wyd y capel tua 1820 ar ôl i nifer o fewnfudwyr o Sir Gaerfyrddin ymsefydlu yn y dref. Ceir tri emyn o'i eiddo yn Swp o Ffìgys, casgliad o emynau mewn dwy ran a fwriadwyd yn bennaf at wasanaeth amryw o ysgolion Sul yr Annibynwyr yn ardal Abertawe. Cyhoeddwyd y rhan gyntaf yn 1821 a'r ail ran yn 1824. Yn yr ail ran ceir emynau Daniel Jones: Rhif 357-Tra yn teithio trwy'r anialwch, Gwna im' ddilyn ol dy dro'd Rhif 359-Boed i efengyl gras, I ledu maes o law A'r enwocaf, Rhif 358-Mae rhyw fyrdd o ryfeddodau, Iesu, yn dy farwol glwy' Ac wrth sôn am yr emyn hwnnw, efallai y byddai'n ddiddorol cymharu dau fersiwn sydd ychydig yn wahanol i'w gilydd. Yn Swp o Ffigys ceir hyn: