Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

un o gymanfaoedd canu y plant yn ystod y chwedegau: O am gael Iesu'n Athraw Ac rwyf am orffen yn Rhymni hefyd, gydag emyn a gyhoeddwyd am y tro cyntaf yn Rhaglen Swyddogol Eisteddfod Genedlaethol Casnewydd, ac a ganwyd am y tro cyntaf y tu allan i Rymni yn Seremoni'r Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Casnewydd. Mae'r awdur yn fardd Eingl-Gymreig, ac yn berson a oedd i raddau helaeth wedi cefnu ar y fagwraeth grefyddol a gafodd yng nghapel Penuel, Rhymni, er bod y wedd ysbrydol yn rhan bwysig o'i fywyd a'i farddoniaeth. Y bardd yw Idris Davies, ac mae'n emyn addas iawn ar gyfer blwyddyn dathlu pedwarcanmlwyddiant cyfieithu'r Beibl i'r Gymraeg, ac ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Casnewydd hefyd. Gweddi wladgarol ydyw; fe'i cyhoeddir yma'n llawn, gyda chaniatâd caredig Mr. Eben Morris, Rhymni: 'Nhad oedd yn chwarae'r harmoniym yng nghapel Glanrafon. Yr oedd yn fyddar. Fy swyddogaeth i oedd eistedd yn sêt yr organ i roi plwc yn llawes 'nhad os dechreuai chwyrnu yn ystod y bregeth, a hergwd iddo pan fyddai'r pregethwr yn ledio'r emyn olaf. -Gwilym Meredydd Jones yn Y Faner, 13 Rhagfyr 1985 Ar blant y byd i gyd; Pwy fel Efe i'n dysgu A'n caru'n fwy o hyd? Fe ddysg in' wersi lawer O sanctaidd Air ein Duw; Rho inni ras i wrando Cans athraw perffaith yw. Iesu, Iesu, cadw Gymru Yn dy lwybrau sanctaidd Di; Gwlad y delyn, gwlad y Beibl, Dal hi'n agos atat Ti. Dal hi yn y dyddiau enbyd Yn dawel yn y dwndwr mawr, Llawn o obaith, llawn o ganu Am yr hyfryd, hyfryd awr. Arwain Gymru fach y dewrion, Bentywysog, arwain hi; Arwain Gymru Pantycelyn Ganodd gymaint erot Ti. Arwain Iesu, annwyl Iesu, Awn ymlaen o ddydd i ddydd Yn cydganu mawl ein tadau A gobeithion Cymru Fydd.