Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Salm 23: Y Bennod Olaf? gan E. Wyn James Yn rhifyn 1972 o'r Bwletin hwn, dechreuwyd cyhoeddi mydryddiadau Cymraeg o 'Salm y Bugail', ac erbyn rhifyn 1985-86 yr oedd trigain o wahanol fersiynau wedi ymddangos ar dudalennau'r Bwletin. Yn rhifyn 1984, tynnwyd sylw at lyfr K.H. Strange, Psalm 23: Several Versions Collected and Put Together a gyhoeddwyd gyntaf yn 1969. (Cyhoeddodd y 'Saint Andrew Press', Caeredin, argraffiad newydd o'r gyfrol hon-Psalm Twenty-Three: An Anthology gan K.H. Strange ac R.G.E. Sandbach-yn 1987. Mae'n ddetholiad helaethach o dipyn na'r argraffiad cyntaf ac yn cynnwys rhagymadrodd a nodiadau mwy cynhwysfawr.) Ac wrth gloi fy sylwadau yn rhifyn 1984 ar yr amrywiol fersiynau o Salm 23 a oedd wedi dod i'r golwg, dywedais: 'O feddwl am yr holl fersiynau Cymraeg o'r Salm hon sydd ar gael, nid oes dwywaith na ellid cyhoeddi cyfrol Gymraeg gystal pob tipyn â'r gyfrol Saesneg a nodir uchod.' Bellach fe ddaeth y gyfrol honno i law, gan i Gymdeithas Emynau Cymru gyhoeddi yn Ebrill 1991 y gyfrol fach Salm 23: Detholiad o Fersiynau Cymraeg dan olygyddiaeth Dr. Rhidian Griffiths. Hwn yw ail gyhoeddiad Cymdeithas Emynau Cymru-ac eithrio'r Bwletin wrth gwrs! (Y cyhoeddiad cyntaf oedd y pamffledyn Rhaglen Anrhydeddu Coffa Nantlais a gyhoeddwyd yn 1970 i gyd-fynd â rhaglen a drefnwyd gan y Gymdeithas yng nghapel Bethany, Rhydaman, yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Rhydaman a'r Cylch.) A'r gobaith yn awr yw y bydd y Gymdeithas o hyn allan yn ymroi i gyhoeddi llyfrau a llyfrynnau yn gyson achlysurol. Detholiad o bump ar hugain o fersiynau Cymraeg o Salm 23 yw'r llyfr presennol. Mae'r pedwar cyntaf yn fersiynau o'r salm 'ar ei ffurf Feiblaidd', sef y cyfieithiadau ohono a gafwyd yn Llyfr Gweddi Gyffredin 1567 ac ym Meiblau 1588, 1620 a 1988. Yna yn dilyn ceir detholiad o un ar hugain o'r fersiynau mydryddol a luniwyd o ddechrau'r ail ganrif ar bymtheg hyd at heddiw. Ymddangosodd deunaw ohonynt ar dudalennau'r Bwletin, dros y blynyddoedd (er i rai ohonynt gael eu diwygio rywfaint cyn cyrraedd y casgliad hwn). At y rhain, ychwanegwyd tri fersiwn nas gwelwyd yn y Bwletin, sef mydryddiadau James Rhys Parry a'i fab, George Parry, o'r ail ganrif ar bymtheg, a mydryddiad gan Meirion Llywelyn Williams, Caergybi, a ymddangosodd yn Y Goleuad yn 1984. Ceir rhagymadrodd byr gan y golygydd ar ddechrau'r casgliad, ac ar y diwedd ceir nodiadau ar ffynonellau'r fersiynau. Mae dau