Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Fy mhen a iraist, ffiol lawn Sydd gennyf, bob rhyw nefol ddawn, Y rhai'm canlynant tra bo chwyth A'm preswyl fydd tŷ'r Arglwydd byth. J. Gwyndud Jones (1831-1926), Penrhyndeudraeth O'i gyfrol Y Salmiadur: sef Llyfr y Salmau ar Gân (Blaenau Ffestiniog, [1903]). Bu cyfnewid mawr yn ein canu eglwysig y ganrif hon, a hynny ymron heb inni sylweddoli. Gwawriodd y ganrif hon gyda ni ynghlwm wrth Eglwys Loegr, gyda'r canlyniad fod ein canu yn sownd wrth batrwm yr eglwys honno. Ond y mae'r iaith Gymraeg yn tarddu o batrwm hen iawn, a hwnnw'n wahanol iawn i'r Saesneg ddiweddarach Cymerwn un enghraifft o'r gwahaniaeth, sefbod y Saesneg yn gyfoethog o eiriau unsill, tra nad ydyw'r Gymraeg ddim. Felly, yr oedd canu Cantiglau a Salmau ar y cynllun Saesneg yn golygu twistio a thagu geiriau Cymraeg i ffitio'r drefn. Bodlonodd y Cymry ar hynny. Pan ddeffrôdd yr ymwybyddiaeth gerddorol, yr oedd canu Cymraeg yn gorfod ffitio'r drefn Saesneg. Yr oedd y Sallwyr Cadeiriol yn ddyn- warediad slafaidd o'r Cathedral Psalter. Chware teg i feddylwyr fel Eos Llechyd am ofalu bod siantiau o naws Gymraeg ar gyfer canu'r Salmau, ond nid oedd hynny'n lliniaru dim ar yr awyrgylch Seisnig. Yna, daeth Syr Walford Davies i Adran Gerdd Aberystwyth, adran hynaf Prifysgol Cymru, a gwelwyd effaith ei safiad, yn araf ar y dechrau ond yn gynyddol fel y datblygodd pethau. Y cynllun agored i Syr Walford oedd dechrau trwy'r Gymanfa Ganu. Cawsom ei syniadau newyddion yn y fan honno, gyda chanu mwy llithrig ac esmwyth o'r herwydd. Llanc yn Llanbedr Pont Steffan oeddwn i ar y pryd, ac yn helpu tipyn ar gôr Eglwys y Plwyf. Yr organydd yn Eglwys Llanbedr ar y pryd oedd David Elgar Williams, llanc pymtheg oed o linach gerddorol. Gwelodd ef werth y drefn newydd, a chafwyd altro mawr yn holl Ddeoniaeth Llanbedr trwy bob Gwyl Gorawl. Daethum yn gyfaill i Elgar, ac ni fyddai sgwrs yn dechrau rhyngom byth heb glodfori'r Drefn Newydd, a chanmol Syr Walford am ei arweiniad doeth. Yr oedd yn amlwg fod egwyddorion y Canu Newydd yn gwreiddio'n gadarn. Rhoddodd y diweddar D. Elgar Williams y gorau i'r gwaith yn Llanbedr, a chofleidiodd waith plisman yn Llundain. Andwyodd hynny ei iechyd, a therfynodd ei oes mewn afiechyd mawr, ond yr oedd ei waith dros y Canu Newydd yn ei ardal wedi ei wneud. Pan ddeuthum yn ôl i Esgobaeth Bangor yn 1929, yr oedd effeithiau y Canu Newydd wedi gafael yma hefyd, ac yr oedd yr un peth yn wir am holl Dalaith Cymru. Yr oedd dylanwad Syr Walford yn gryf, yn bennaf trwy ddylanwad Gwyliau Castell Harlech. Erys dylanwad Syr Walford Davies ar ganiadaeth yr Eglwys yng Nghymru yn fwy nag a dybiasom erioed. -J.H. Williams yn Y Llan, 23 Mai 1986