Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Adolygiadau Cofio Robert Williams, Mynydd Ithel (1782-1818) gan Huw Williams (Cyfarfod Dosbarth M.C. Amlwch, 1990). Sain a Synnwyr: Rhai Sylwadau ar Ganu Mawl y Genedl gan Huw Williams (Pwyllgor Hanes a Chyfeillion Tre'r-ddôl, a'r Awdur, 1991). Seiliwyd y llyfryn Cofio Robert Williams ar ddarlith a draddodwyd i Gyfarfod Dosbarth yng Nghapel Salem, Llanfair-yng-Nghornwy, 25 Mehefin 1990, a'i amcan yw olrhain hanes y dôn enwog 'Llanfair' a hanes bywyd ei chyfansoddwr. Fel y dengys yr awdur, cychwynnodd 'Llanfair' ar ei thaith urddasol gerbron y byd o dan yr enw 'Bethel', yng nghasgliad John Parry, Peroriaeth Hyfryd, yn 1837, er iddi, yn ôl pob tebyg, gael ei chyfansoddi ryw ugain mlynedd cyn hynny. Fe'i cynhwyswyd, o dan wahanol enwau, mewn nifer o gasgliadau yn ystod y ganrif ddiwethaf, a mynd dros y ffin pan gyhoeddodd Ralph Vaughan Williams hi yn yr English Hymnal yn 1906: oddi yno ymledodd i wledydd eraill. Cyfrifwyd hi'n 'Alaw Gymreig' nes ei hawlio yn 1896 i Robert Williams, Mynydd Ithel; a cheir yma drafodaeth lawn a manwl o'r dystiolaeth ynglyn ag awduriaeth y dôn. Ychwanegir at werth y drafodaeth gan ddarluniau diddorol, ach teulu Robert Williams, a chopïau o lawysgrif pum tôn arall o'i waith na ddaethant yn adnabyddus. Go brin y bydd neb am ychwanegu gair at yr astudiaeth drylwyr a gwerthfawr hon. Darlith Tre'r-ddôl, a draddodwyd yn yr Hen Gapel yno, 29 Medi 1990, yw Sain a Synnwyr. Yma y mae'r awdur yn trafod anogaeth yr Apostol Paul i'r Cristnogion bore i 'ganu â'r deall hefyd': a byrdwn ei lith yw mai diffyg gwybodaeth, ac yn sgil hynny ddiffyg deall, sy'n bennaf gyfrifol am y dirywiad yn safon canu cynulleidfaol yng Nghymru. Nid yw aelodau cynulleidfaoedd bellach yn ddigon hyddysg yn y Beibl i ddeall cefndir ysgrythurol nifer o'n hemynau, ac mae'r iaith yn aml yn bur ddieithr iddynt. Awgrymir y gellid symud at wella'r sefyllfa trwy gymell pregethwyr ac athrawon i esbonio emynau'n fanwl er mwyn sicrhau fod cynulleidfaoedd yn eu deall cyn eu canu mewn capel ac ysgol. Awgrymir ymhellach mai da o beth fyddai i'r sawl sy'n gyfrifol am arwain canu ymgydnabod â chefndir hanesyddol yr emynau a'r tonau, ac amgylchiadau eu cyfansoddi. Y mae'r genadwri glodwiw ac amserol hon yn seiliedig, fel y gellid disgwyl, ar ddealltwriaeth lawn o'r maes, ac fe'i darlunnir trwy gyfrwng 11u o enghreifftiau priodol. Y mae ein dyled fel cenedl i Huw Williams yn enfawr. Dros y