Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

blynyddoedd gwnaeth le cwbl arbennig iddo'i hun ym maes emynydd- iaeth Cymru, ac y mae'r ddwy ddarlith uchod yn brawf o'i fedr wrth drafod ei destun. Haeddant eu hastudio'n fanwl ac yn ofalus. Aberystwyth RHIDIAN GRIFFITHS Welsh Hymns and Their Tunes: Their Background and Place in Welsh History and Culture gan Alan Luff (Illinois: Hope Publishing Company; Llundain: Stainer & Bell, 1990), clawr meddal, 255tt, £ 8.95. 'Nid yw'r Sais na'r Americanwr yn gartrefol o gwbl wrth drafod emynyddiaeth Cymru, ac y mae eu sillafiad o enwau lleoedd ein gwlad sy'n gysylltiedig â rhai o'n hemynwyr a'n cyfansoddwyr yn echrydus.' Mi gofiaf yn dda mai dyna'r geiriau cyntaf a glywais o enau'r diweddar Barchedig Brifathro D. Eirwyn Morgan ar ôl imi ymuno â Chymdeithas Emynau Cymru, ac mi gefais innau ddigon o gyfle dros y blynyddoedd i wireddu ei eiriau wrth ddarllen amryw o bamffledi ac o ysgrifau cylchgrawn yn 'yr iaith fain'. Roedd felly fawr angen am lyfr fel hwn gan y Parchedig Alan Luff, sydd mae'n debyg wedi ei fwriadu'n bennaf i lenwi bwlch yn llenyddiaeth y Sais a'r Americanwr am emynyddiaeth ein cenedl, yn hytrach nag fel llawlyfr ar gyfer y Cymro diwylliedig. A phwy'n well i ymgymryd â'r gorchwyl mewn golwg nag awdur o Sais a feistrolodd Gymraeg, a threulio rhai blynyddoedd fel clerigwr prysur yn ein plith! Rhannwyd y llyfr yn bump o benodau; y tair pennod gyntaf yn ymdrin â chefndir y pwnc, ac yn cael eu dilyn gan benodau yn trafod datblygiad emynyddiaeth ein gwlad o'r ail ganrif ar bymtheg, a thrafodaeth ar yr alawon, yn cynnwys lliaws o enghreifftiau cerddorol wedi eu hargraffu'n ddestlus mewn hen nodiant. Mae'r patrwm cyffredinol yn un cymeradwy ddigon, gyda'r argraffu'n eglur a'r ymgais i grynhoi gwybodaeth ar y testun yn fwy uchelgeisiol 0 lawer na'r un o'r ceisiadau cyfatebol o'r gorffennol y digwydd i mi fod yn gyfarwydd â hwy. Cychwynnais ddarllen y gyfrol yn awchus, ond buan iawn y cefais fy nadrithio ac y troes llawenydd yn siomiant wrth weld bod yn y gyfrol liaws o gamosodiadau ac o gamgymeriadau sillafu/argraffu. Rhwydd hynt i'r awdur-fel i bob awdur arall o ran hynny fanteisio ar y cyfle i fynegi barn neu i ffurfio casgliadau (neu'n wir i broffwydo ambell dro, fel y dewisodd Mr. Luff ei wneud fwy nag unwaith yn y gyfrol hon), ac er na chytunaf bob tro â'i syniadau, mae iddo berffaith hawl