Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

wedi golygu llafur mawr i'r awdur ac y mae hefyd fawr angen am gyhoeddiad tebyg iddo. Ond nid ar yr awdur y mae'r bai i gyd. Fe ddylai'r cyhoeddwyr fod wedi anfon y llyfr at rywun cymwys i'w ddarllen yn gyntaf, ac yna ofalu bod y proflenni yn cael eu cywiro'n ofalus. Bangor HUW WILLIAMS Yng nghasgliad Syr Thomas Parry o farddoniaeth Cymru y mae gwaith 191 o feirdd ac oddeutu deugain o gerddi gan Anhysbys. Un ferch yn unig sydd yn y rhestr, Ann Griffiths, yr emynyddes. Yn od, hefyd, y mae si ar led bob tro yr enilla merch ar farddoniaeth, nad hi yw creawdwr y gerdd. Ac fe gewch, hyd yn oed heddiw, ambell ddyn bach yn holi o ble daeth emynau Ann Griffiths. -I.B. Griffith yn Y Faner, 9-16 Awst 1985 Yn fy llaw mae Llyfr Emynau y Doctor Kate Roberts, Llenor, Cenedlaetholwraig ac Athrawes Ysgol Sul, ac un a fu'n addoli yn yr adeilad hwn am yn agos i hanner can mlynedd. Ni fyddai neb yn synnu petawn yn dadlennu mai dau emyn angladdol eu naws, gyda'r emynau a ganwyd yn ei hangladd, oedd ei ffefrynnau. 'Bydd myrdd o ryfeddodau oedd un ohonynt, emyn a glywodd ei ganu mor gyson yn ei bro enedigol yn Ar- fon mewn angladdau Meddai [wrthyfun tro]: 'Byr yw'r llinellau, ond sylwch gymaint o eli sydd ymhob brawddeg. Un pennill yw'r emyn, ond mae ynddo gytsain feddal sy'n llawn diddanwch, yn ei hailadrodd ei hun ryw ddeg o weithiau.' Y gytsain 'dd' wrth gwrs yw honno. Adroddodd y pennill trwyddo gan bwyso ar y gytsain, fel petai nam ar ei lleferydd. Yr oedd rhyw ias yn fy ngherdded y funud honno. 'Y mae newid mawr yn yr emyn o'i ddechrau i'w ddiwedd,' ychwanegodd. 'Emyn am newid ydyw, y newid y byddwn yn gobeithio amdano. Emyn i'w ganu'n ddwys ydyw, ond emyn sy'n llawn llawenydd. Gofalwch y bydd yn cael ei ganu yn fy angladd pan ddaw'r dydd' Emyn o Sir Gaerfyrddin, un David Charles, oedd yr emyn angladdol arall a hoffai. Mae'n emyn cyfarwydd i ni i gyd, yn enwedig y pennill sy'n ei gloi, ac sydd wedi cloi llawer gyrfa mewn mynwent: 'O fryniau Caersalem ceir gweled Yn ddiweddar iawn, ar ôl i mi adael Dinbych, a hithau'n ysgrifennu ychydig ac yn myfyrio mwy, y bu'n dehongli'r pennill hwn a'i le yn ei phrofiad. 'Nid yw'n emyn trist,' meddai. 'Y dôn "Crug-y-bar" ac achlysuron ei ganu a'i gwnaeth yn drist. Mae'n emyn angladd, ond nid angau sydd ynddo, ond bywyd a gobaith.' Ac meddai awdur y storiau prudd: 'Nid tristwch sydd ynddo, ond llawenydd'. -W.I. Cynwil Williams yn Y Traethodydd, Hydref 1985 (rhan o sgript cyfarfod i goffáu Dr. Kate Roberts yn y Capel Mawr, Dinbych, ar 4 Awst 1985)