Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Flynyddoedd yn ôl, awgrymodd John Gwilym Jones mai cyfeiriadaeth ysgrythurol oedd nodwedd fwyaf amlwg a gweithredol emyn. Yn naturiol ddigon, felly, wrth iddynt gloriannu camp William Morgan yn cyfieithu'r Beibl i'r Gymraeg bedair canrif yn ôl, rhoes haneswyr a beimiaid llên sylw dyladwy i emynyddiaeth Cymru. Rhaid i ni ystyried gwaith ein hemynwyr ymhlith cynnyrch gorau y diwylliant beiblaidd Cymreig. Yn ystod 1988 cafwyd llawer ymdriniaeth ar gefndir a champ Beibl 1588. Y cyflwyniad gorau oedd YBeibl a Droes i'w Bobl Draw (Darlith Flynyddol y B.B.C.) gan R. Geraint Gruffydd. Yn adran olaf ei gyfrol hardd, Beibl i Gymru, rhydd Prys Morgan sylw i arwyddocâd cyfieithu'r Beibl a'i bwysigrwydd i'r diwygwyr Methodistaidd. Golygodd R. Geraint Gruffydd gyfrol o ysgrifau ar yr etifeddiaeth feiblaidd, YGairar Waith (adolygiad: D.R. ap Thomas, F. 11/11). Yn ei ysgrif ar ddylanwad y Beibl ar yr iaith Gymraeg noda D. Simon Evans mai trwy'r emyn y daeth y Beibl yn agos at galon a meddwl y credadun. Wrth olrhain y modd y rhoes y Beibl undod i'r dychymyg llenyddol Cymraeg yn ystod y pedair canrif ddiwethaf ymdrinia Derec Llwyd Morgan â theipoleg (sef cyfundrefnau cyfeiriadaeth ysgrythurol) rhai emynwyr-Dafydd Jones o Gaeo, Ann Griffiths, David Charles, Williams Pantycelyn a Phedr Fardd. Ac yn yr un gyfrol, cawn J.E. Caerwyn Williams, wrth drafod 'Y Beibl a'r Ymwybod Cenedlaethol', yn cymharu'r Diwygiad Methodistaidd â'r Mudiad Rhamantaidd, gan nodi i'r Diwygiad ddeffro'r dychweledigion 'i ymwybod â'r byd mewn ffordd newydd danlli', ac fe ddyfynna o waith Pantycelyn, 'P'le'r enynnodd fy nymuniad?' i brofi'r pwynt. Cafwyd sawl ysgrif arall yn ystod y flwyddyn yn ymdrin â dylanwad y Beibl ar ein hemynyddiaeth. 'Y Beibl Cymraeg Newydd a'r Emyn' oedd testun Huw Ethall (T. 19/5). Trafododd E.R. Lloyd Jones gyfraniad cyfieithiad William Morgan mewn ysgrif dair rhan (T. 3/3, 10/3, 17/3), gan nodi'r cyfraniad llenyddol. Wrth draddodi Darlith Goffa R.T. Jenkins yn 1987 ymdriniodd Derec Llwyd Morgan â'r 'Beibl a'n Dychymyg Hanesyddol'. Cyhoeddwyd y ddarlith yn Taliesin (Mai 1988); a chafwyd ysgrif hynod o ddiddorol gan Wyn Thomas ar 'Y Beibl a Cherddoriaeth', gan drafod pynciau megis perfformiad cerddorol y *Byrfoddau: E.-Barddas; C.-YCymro; CHC-Cylchgrawn Hanes Cymru; Cof.-Y Cofiadur; Cr.-Cristion; EMW -Evangelical Magaàne of Wales; F. Y Faner; G.-Y Goleuad; Gw. Y Gwyliedydd; Ll. Y Llan; S. Seren Cymru; T.-Y Tyst; Tal. Taliesin; Tr. Y Traethodydd. Cyfeirir at y dyddiad a'r mis yn unig. Lloffa 1988* gan Kathryn Jenkins