Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Owen Jones am ddiwylliant capelaidd y brodorion ac yn enwedig am eu corau. Mewn erthygl hynod o ddiddorol disgrifiodd Rhidian Griffiths 'Wales' Most Distinctive Contribution: Origins of the Cymanfa Ganu' (Yr Enfys, Hyd.). Yng ngholofn olygyddol Y Faner (15/1) soniwyd am 'Beryglon Crefydd Ddwyieithog' rhybudd amserol am agwedd arall ar y dirywiad crefyddol yng Nghymru. Y mae cyfoeth ein traddodiad emynyddol yn wedd bwysig ar ein hunaniaeth fel cenedl. Ein braint yw ei ddiogelu fel un o ganlyniadau gwychaf camp William Morgan yn troi'r Gymraeg yn 'un o dafodieithoedd Datguddiad Duw'. Pan oedd Ieuan Glan Geirionydd yn llanc ifanc, chwaraeodd branc ar blwyfolion Trefriw. Gwilym Cowlyd sydd wedi cofnodi'r hanes. Dringodd y llanc i glochdy Eglwys y Plwyf, a chlymu llinyn tenau yn y gloch, a'i guddio yn yr eiddew. Dychwelodd yn nhrymder y nos, a chanu'r gloch. Daeth mintai o ddewrion yno, a chael yr Eglwys ynghlo a thywyll iawn. Daethant i'r farn mae ysbrydion aflan oedd ar waith. Ymhen amser, canodd y gloch wedyn, a daeth y clochydd yno gyda llusem a Llyfr Gweddi. Adroddodd y Pader a darllen gweddiau eraill yn y fynwent. Ond yr oedd Ieuan yn cuddio mewn coeden! -YUan, 7 Mehefin 1985 Yr oedd plant bach capeli'r Rhyl yn cael eu magu yn swn Eisteddfod y Plant. Yr oedd hynny cyn i'r Urdd wneud eisteddfod plant yn sefydliad crand. Neuadd y Dref oedd y pafiliwn eisteddfodol. A'r cof sydd gen i yw fod y neuadd yn orlawn ar gyfer y cystadlu. Erbyn cyfarfod y nos byddai'r muriau'n rhedeg gan chwys-a'r cystadleuwyr yr un modd. Dim ond plant mawr oedd yn cael mynd i gyfarfod y nos i glywed hwn a'r Uall yn canu tôn yn ddifyfyr ac wythawdau'n gornestu â'i gilydd wrth ganu 'Pob seraff, pob sant' ar y dôn 'Brwynog'. Un canlyniad— anhapus efallai yw nad wyf erioed wedi ledio 'Pob seraff, pob sant' mewn oedfa. Rywsut y mae chwys Neuadd Tref Y Rhyl wedi glynu wrth y dôn a'r emyn. -R. Tudur Jones yn Y Cymro, 7 Awst 1985 [Yn rhaglen Gwyn Erfyl, Ble 'r Aeth yr Amen] cawsom gip ar bobl dduon America yn canu eu hemynau. Canent yng nghanol tlodi, segurdod a diweithdra am fyd gwell Wrth wrando arnynt atgoffid Gwyn Erfyl o'r canu plygain yn ei sir enedigol. Wn i ddim am hynny ond mae yna dinc o hiraeth sy'n nodweddu cân y Negro ac emynau'r Cymro fel ei gilydd. Rhoddwyd iau caethiwed ar war y naill a chrogwyd y darn o bren â'r llythrennau du am wddf y llall. Er bod Uiw'r croen yn wahanol, pobl dan orthrwm ydym yn eistedd ar lan afonydd Babilon. Gallwn ganu am y nefoedd ond mae is-alaw wleidyddol i'r dôn. Clymir y Cymro a'r Negro gan yr awydd dwfn i fod yn rhydd. Dafydd Morgan Lewis yn Y Cymro, 17 Gorffennaf 1985