Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Cerddorion Cwm Nedd gan Phylip Jones Darlith Flynyddol Cymdeühas Emynau Cymru a draddodwyd yn Eisteddfod Genedlaethol Nedd a'r Cyffìniau 1994. Carwn ddiolch yn gyntaf am y cyfle a'r fraint o gael traddodi Darlith Flynyddol Cymdeithas Emynau Cymru. Carwn ddweud hefyd ar y dechrau nad darlithydd academaidd ac ysgolheigaidd mohonof. Fel un a faged yn yr ardal hon mae gennyf ddiddordeb yn ei thraddodiadau gorau. Fel blaenor yn yr eglwys mae gennyf ddaliadau cryfion ar le canu emynau fel moddion gras. Rhoddwyd rhyddid imi ddewis fy llwybr fy hunan ym maes cerddorion yr ardal. Rwyf wedi fy nghyfyngu fy hun i diriogaeth Dyffryn Nedd a Chastell-nedd gan gynnwys Sgiwen ac o ran cerddoriaeth, i gyfansoddwyr sydd â'u gwaith wedi ei gynnwys mewn llyfr tonau enwadol. Ni ellir priodoli unrhyw un o hen donau annwyl y genedl i'r ardal hon, er bod Llawlyfr Moliant Newydd y Bedyddwyr yn cydnabod casgliad Maria Jane Williams, Aberpergwm, Ancient National Airs of Gwent and Morganwg (1844), yn ffynhonnell y dôn 'Cyfamod' (neu'r 'Hen Ddarbi'). Mae cerddorion yr ardal hon yn ffrwyth Ymneilltuaeth a Mudiad y Tonic Sol-ffa mudiad a ddysgodd i'r werin ddarllen cerddoriaeth leisiol. Yr ysgol gân oedd y sylfaen, a rhoes hynny fod i'r gymanfa ganu. Gadewch inni ystyried am funud yr agwedd meddwl sydd y tu ôl i'r gymanfa ganu. Gan fod Duw wedi gwneud popeth er iachawdwriaeth yn Iesu Grist a'i aberth, onid rhesymol wasanaeth yw cyflwyno'r gorau yn unig iddo ym myd canu mawl, fel ym mhob maes arall? Dywedodd Schweitzer nad oedd yn bosibl deall J. S. Bach heb yn gyntaf ddeall yr athrawiaeth o gyfiawnhad trwy ffydd yn unig. Dyma'r unig ffordd i ddeall agwedd ac egni Ymneilltuaeth Cymru'r bedwaredd ganrif ar bymtheg hefyd. Aed ati i wella safon y canu o ran y dull, y tonau a'r mynegiant. Yr oedd y gymanfa ganu yn ŵyl a oedd yn coroni gwaith caled mewn ysgol gân. Yn ystod y gymanfa, ceid anerchiad ar ryw wedd ar ganu mawl. Cynhelid cystadlaethau cyfansoddi tonau ac anthemau. Yr oedd yn fwrlwm o weithgarwch. Dyna'r