Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Penodwyd ef yn bennaeth adran gerdd Ysgol Ramadeg y Merched. Bu'n gôr-feistr ac arweinydd y gân yng nghapel y Tabernacl am wyth mlynedd, yn arweinydd Côr Llanelli, Côr Ieuenctid y Presbyteriaid a Chôr y YMCA, ac am flynyddoedd lawer yn arweinydd y gân yng Nghapel Als. Yr oedd galw mawr amdano i arwain cymanfaoedd canu. Yr oedd ar fwrdd golygyddol cerddoriaeth Y Caniedydd. Dwy dôn sydd ganddo yn Y Caniedydd, sef 'Glyn' a'Melin Cwrt'. Bufarwyn81 oed yn 1987. Cyfrannodd y dynion hyn yn fawr i'w cymdeithas ac i Gymru. Byddai sawl un ohonynt wedi gwneud mwy o enw iddynt eu hunain, a chyfoeth hefyd, petaent wedi troi eu golygon tua Lloegr. Heblaw'r rhai yr wyf wedi cyfeirio atynt yma, codwyd cenedlaethau o gerddorion amatur da a wnaeth ddiwrnod da o waith ym myd cerdd a hynny ar ôl 'shifft' o waith. Gwelir gweithiau llawer ohonynt yn y rhaglenni cymanfaoedd dros y blynyddoedd; ffolineb fyddai dechrau eu henwi. Mae yna duedd i ddilorni cerddorion y cyfnod, a'r hyn yr oeddynt yn ceisio ei wneud. Ond ym mha wlad arall y dysgwyd gwerin i ganu mewn pedwar llais mewn cynulleidfa? Am donau'r ardal, os nad ydynt wedi cyrraedd y tonau poblogaidd, mae yn eu plith donau da; tonau nad ydynt deilwng o agwedd 'ffwrdd-â-hi', 'gwnaiff-rhywbeth-y-tro' y Gymru grefyddol sydd ohoni. Byddai awgrymu sut i wella'r sefyllfa yn golygu darlith arall "T » T* T* Cyfeiriadur Emynau Mae'r Parch. Dafydd M. Job, gweinidog Eglwys Efengylaidd Gymraeg Bangor, wedi paratoi rhestr o holl linellau pob emyn yn Llyfr Emynau y Methodistiaid (1927) wedi eu gosod yn nhrefn yr wyddor. Cyhoeddwyd y rhestr ar ffurf llyfryn 60 tudalen maint A4 gan Wasg Bryntirion, Pen-y-bont ar Ogwr yn 1997, a'i bris yw £ 4.25. Mae pawb ohonom wedi crafu pen o dro i dro wrth gofio rhyw linell o emyn ond yn methu'n lân â chofio dechrau'r pennill. Bydd y llyfryn hwn yn gymorth amhrisiadwy i ddatrys problemau o'r fath. Un a wasanaethodd ar bwyllgor Llyfr Emynau 1927 oedd yr emynydd J. T. Job, tad-cu'r Parch. Dafydd Job.