Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Yr Emyn: Y Dechreuadau gan J. E. Caerwyn Williams Darlith a draddodwyd yn Ysgol Undydd Cymdeithas Emynau Cymru, Aberystwyth, 13 Mai 1995, yw hon. Bu farw'r Athro J. E. Caerwyn Williams yng nghanol ei waith ym Mehefìn 1999, ac yntau'n 87 mlwydd oed. Yn ŵr addfwyn a diymhongar, ef oedd un o'r ysgolheigion mwyaf a welodd Cymru erioed a bydd bwlch enfawr ar ei ôl ym myd ysgolheictod Cymreig a Cheltaidd. Cymeradwywn i sylw ein darllenwyr y rhifyn arbennig o'r Traethodydd a gyhoeddwyd i'w goffáu yn Hydref 1999, dan olygyddiaeth Dr Brynley F. Roberts. Nid yw'r emyn fel dull neu genre llenyddol yn dod yn uchel ar restr diddordebau ysgolheigion y dyddiau hyn, a chymharol ychydig o lenorion sy'n trafferthu i gyfansoddi emynau. Efallai na ddylid disgwyl i bethau fod yn wahanol. Os cân fawl i Dduw, neu fel y dywedodd Awstin Sant, cantus cum laude Dei, yw'r emyn, gan grefyddwyr y dylem ddisgwyl lIunio emynau, a chan fod nifer ein crefyddwyr wedi lleihau, gellir disgwyl lleihad yn nifer yr emynwyr ac yn nifer yr emynau a gyfansoddir. Ond nid Cymru, ac nid hyd yn oed Prydain Fawr yw'r byd, a dylem gofio fod Cristnogaeth yn ffynnu yn rhyfeddol mewn ambell ran ohono, a thebyg fod emynyddiaeth Gristnogol yn ffynnu yno hefyd. A sut bynnag, nid i Gristnogaeth yn unig y perthyn yr emyn; fe'i ceir yn Iddewiaeth, Islamiaeth a Bwdistiaeth, a cham ag ef fyddai anghofio fod ei hanes i'w olrhain yn ôl nid yn unig i ddechreuad y crefyddau hyn eithr hefyd i ddechreuad crefydd, ie, a dechreuad llenyddiaeth. Hwyrach yn wir fod dechreuad llenyddiaeth ynghlwm wrth ddechreuad crefydd, fel y dadleuodd rhai, a bod dechreuad lIenyddiaeth ynghlwm wrthi am fod dechreuad celfyddyd ynghlwm wrthi. Ni ellir gwadu nad yw'r emyn fel cyfansoddiad geiriol yn rhan o lenyddiaeth, a chan ei fod hefyd ynghlwm wrth gerddoriaeth, y mae'n ddwbl gysylltiedig â chelfyddyd. Mae dyddiau llenyddiaeth a dyddiau cerddoriaeth yn ymestyn ymhellach yn ôl na dyddiau eu cofnodi cyntaf, ac efallai fod hanes lIenyddiaeth a cherddoriaeth i'w holrhain ymhellach yn ôl na hanes celfyddydau llaw fel crochenwaith a phaentio.