Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Emynau'r Piwritaniaid gan R. Tudur Jones Darlith Flynyddol Cymdeithas Emynau Cymru a draddodwyd yn Eisteddfod Genedlaethol De Powys, Llanelwedd 1993. Colled enbyd i'n bywyd diwylliannol a chrefyddol oedd marwolaeth sydyn y cyn-Brifathro R. Tudur Jones yng Ngorffennaf 1998, yn 77 oed. Gallwn gytuno'n rhwydd â'r Athro Geraint H. Jenìcins pan ddywed, mewn erthygl deyrnged nodedig yn rhifyn Medi 1 998 o'r cylchgrawn Barn, mai Doctor Tudur Jones oedd 'un o Gymry Cymraeg galluocaf yr ugeinfed ganrif fa'rj hanesydd Cristnogol mwyaf a fagwyd erioed yng Nghymru Estynnwn ein cydymdeimlad dwysafi'w weddw a'i deulu. Mae'n rhyfedd meddwl mai'r bobl gyntaf i gael hwyl ar ganu salmau mydryddol oedd preswylwyr llys François I, brenin Ffrainc, yn 1540. Dichon mai'r rheswm am apêl y salmau oedd eu bod wedi eu gosod ar alawon baledi poblogaidd. Mewn Uawysgrif yr oeddent, a'u hawdur oedd Clément Marot (c. 1497-1544). Dyma hefyd y salmau a fabwysiadwyd gan John Calfin i'w canu gan y gynulleidfa Brotestannaidd yn Strasbourg. Fe'u hargraffwyd gyntaf yn Strasbourg yn 1539 yn Aulcuns Pseaumes et Cantiques mys en chant. Cynhwysai'r gyfrol hon ddeunaw o salmau ynghyd â Chân Simeon, y Gredo a'r Deg Gorchymyn, ond bod Salm 113 a'r Gredo mewn rhyddiaith. Tybir fod llaw Calfin ei hun yn drwm ar rai o'r damau hyn. Bu Marot farw yn 1544 ac olynydd Calfin, Theodore Beza, a gwblhaodd y gwaith o gynhyrchu Sallwyr Genefa a gyhoeddwyd yn ei ffurf derfynol yn 1562.1 Dyna sut y daeth canu salmau ar fydr yn rhan o'r traddodiad Diwygiedig. Yn naturiol, yr oedd y fföedigion a giliodd i'r Cyfandir rhag yr erlid yn ystod teyrnasiad Mari Tudur yn awyddus i gymhwyso traddodiad Genefa ar gyfer trefn addoli Eglwys Loegr ar ôl iddynt ddychwelyd. Ffrwyth eithaf eu llafur oedd y sallwyr a gyhoeddwyd yn 1562, The whole Booìce of Psalmes, collected into Englysh metre by T. Starnhold, 1. Hopkins & others. Er enwi Sternhold a Hopkins yn y teitì, ceid cynhyrchion o leiaf deuddeg o awduron ynddo. Bwriad Thomas Sternold, afu farw yn 1549, oedd gwneud y Salmau'n ganeuon i