Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Ar lafar yr aeth y penillion hyn ar led yn ystod oes y Ficer ei hun, ond fe'u casglwyd ynghyd ar ôl ei farw a'u cyhoeddi'n llyfr. Rhoddwyd y teitl Cannwyll y Cymry ar y casgliad maes o law, ac am dros ddwy ganrif bu Cannwyll y Cymry yn un o'r llyfrau mwyaf poblogaidd a dylanwadol yn y Gymraeg. Gallwn ddweud, yn wir, i Gannwyll y Ficer wasanaethu fel goleudy ysbrydol nerthol yng Nghymru dros genedlaethau lawer. Nid yw'r Ficer yn anelu at lenyddiaeth fawr yn ei gerddi. Fel y dywedodd ef ei hun: Ni cheisiais ddim cywreinwaith Ond mesur esmwyth, perffaith, Hawdd i'w ddysgu ar fyr dro Gan bawb a'i clywo deirgwaith. A cheir geiriau carbwl a sathredig, megis 'repento' am edifarhau a 'departo' am ymadael, yn britho ei waith. Ond, ar ei orau, fe all esgyn yn bur uchel, fel yn y penillion hyn mewn cerdd sy'n annog pawb i gofîo angau a bod yn barod ar ei gyfer: Fel y rhed yr haul i'r hwyr, Fel y treulia'r gannwyll gŵyr, Fel y syrthia'r rhosyn gwyn, Fel y diffydd tarth ar lyn; Felly treulia, felly rhed, Felly derfydd pobol Cred, Felly diffydd bywyd dyn, Felly syrthiwn bob yr un Ni cheir gweled mwy o'n hôl Nag ôl neidir ar y ddôl, Neu ôl llong aeth dros y tonnau, Neu ôl saeth mewn awyr denau. Nid oes eu gwell ymhlith goreuon yr Hen Benillion. Ond er mor swynol a chelfydd eu harddull, nid felly eu neges. Ein hatgoffa am freuder bywyd y mae'r Ficer, gan adleisio geiriau Epistol Iago (4:14): 'Canys beth ydyw eich einioes chwi? Canys tarth ydyw, yr hwn sydd dros ychydig yn ymddangos, ac wedi hynny yn diflannu.'