Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Yn lIe myrr, rhown wir 'difeirwch, Ac fe'u cymer drwy hyfrydwch. Yna y mae ail hanner y gerdd yn gyfres o benillion sy'n disgrifio'r olygfa sydd i'w gweld ym Methlem. Mae pob pennill yn dechrau â'r gair 'Awn', yn anogaeth daer inni fynd i Fethlem, ac y mae'r pwyslais drwyddynt ar ryfeddod y Duw-ddyn a aned yno y Duw hollalluog, yr Un sy'n bod erioed, ar yr un pryd yn faban bach diymadferth ar lin ei fam: Awn i Fethlem i gael gweled Mair a Mab Duw ar ei harffed; Mair yn dala rhwng ei dwylo Y Mab sy'n cadw'r byd rhag cwympo! Does rhyfedd i'r Ficer Prichard dorri allan i'r fath orfoledd wrth ddathlu geni'r fath Un. Mae'n gorffen ei garol trwy ddatgan y bydd pawb sy'n gweld gwir ystyr ac arwyddocâd y Geni ym Methlem yn 'dra dedwydd'. Boed i ninnau brofi o'r un dedwyddwch a llawenydd ag a ddaeth i ran yr Hen Ficer dri chant a hanner o flynyddoedd yn ôl. Colli'r Tri Brawd o Droed-y-rhiw Yn rhifyn 1986-87 o'r Bwletin hwn (cyf. II:9, tt.290-3, 345), cafwyd ysgrif gan Mr Meirion Williams, un o dri brawd cerddgar o Droed-y-rhiw ger Merthyr Tudful, yn rhoi peth o hanes ei ddau frawd, Maldwyn ac Emlyn, dau a fu yn eu tro yn fuddugol yng nghystadleuaeth yr emyn-dôn yn yr Eisteddfod Genedlaethol, y naill yn 1978 a'r Uall yn 1979. Bu farw'r brawd hynaf, Maldwyn, yn 1979, y flwyddyn ar ôl iddo ennill ar gystadleuaeth yr emyn- dôn yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd. Drwg gennym gofnodi fod y ddau frawd arall bellach wedi ein gadael. Bu farw Emlyn ar 23 Medi 1996 a Meirion ar 24 Mai 1999. Mab Mr Emlyn Williams yw'r Athro Gareth Williams o Adran Hanes a Hanes Cymru, Prifysgol Cymru Aberystwyth ac awdur y gyfrol Valleys of Song: Music and Society in Wales 1840-1914 (1998). Estynnwn ein cydymdeimlad iddo ef a'i deulu yn eu colled.