Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Ym Medi 1995, cynhaliwyd y '64th Welsh National Gymanfa Ganu', sef Cymanfa Ganu Flynyddol Gogledd America, yn Harrisburg, Pennsylvania. Penderfynwyd cynnal cystadleuaeth llunio emyn-dôn yn rhan o'r Gymanfa, ac un o'r ymgeiswyr oedd Mr Roby E. Davies ('Robi Llan-rhos' yn yr Orsedd). Bu Mr Davies yn athro cerdd yn Ysgol Oriel House ac yna'n Gyfarwyddwr Cerdd yng Ngholeg Dewi Sant yn Llandudno, cyn ymddeol i fyw i Ddegannwy. Lluniwyd y geiriau Cymraeg a'r cyfieithiad Saesneg, 'Mordaith Bywyd/Life's Voyage', argyfer y dôn gan y Prifardd Dafydd Owen, Hen Golwyn, ar gais Mr Davies. Anfonwyd ugain o emyn-donau i'r gystadleuaeth, gan un ar bymtheg o gerddorion o Gymru, Lloegr a'r Amerig, ac emyn-dôn Mr Roby Davies, 'Harrisburg', a ddyfarnwyd yn orau yn unfrydol gan y tri beirniad: Glynne Jones, arweinydd Côr Pendyrys, Robert Huw Morgan, Pennaeth Cerdd BBC Cymru, a Donald Wilkinson King, Cyfarwyddwr Côr Eglwys Rehoboth, Delta, Pennsylvania. Cyhoeddwyd detholiad o donau'r gystadleuaeth yn llyfryn gan Bwyllgor y Gymanfa Ganu. Canwyd yr emyn a'r dôn fuddugol yn y Gymanfa gan Gôr Pendyrys, a Mr Roby Davies ei hun yn bresennol. Cyhoeddwyd hefyd dâp (BBC CDS 90) o'r emyn yn cael ei ganu yn y Gymanfa gan gorau Pendyrys a Rehoboth. Canwyd yr emyn hefyd gan gôr mewn ymgyrch efengylu, 'Making Waves', a gynhaliwyd yn Theatr Gogledd Cymru, Llandudno, 28-30 Mawrth 1996, a rhyw fil o bobl yn bresennol bob nos. Bu rhai yn cyfieithu emynau i'r Gymraeg ar gyfer y detholiad a argraffwyd ar gyfer yr ymgyrch, a'r Prifardd Dafydd Owen yn eu plith. Atgynhyrchwn yma eiriau Cymraeg a Saesneg Mr Owen, ynghyd â thôn Mr Davies, gyda chaniatâd caredig yr emynydd a'r cyfansoddwr. Mordaith Bywyd yn Harrisburg The 64th Welsh National Gymanfa Ganu Harrisburg, PA Sponsored by Rehoboch Welsh Church Ddta. PA Cardiff, MD