Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Gair o Brofiad am Gefndir Emyn Erthygl a ymddangosodd gyntaf yn Y Gwyliedydd, Ebrill/Mai 1999. Fe'i cyhoeddir yma gyda chaniatâd care'dig yrawdur. Dyma'r dydd uwchlaw'r holl ddyddiau, Anghymharol nefol ddydd; Cododd Crist o fedd yr angau, O'i gadwynau daeth yn rhydd; Ti, Dduw Dad, trwy nerth anfeidrol Seliodd goncwest fwya'r byd; Concwest uwchlaw deall meidrol: Plygwn mewn addoliad mud. Torrodd gwawr dros yr holl gread Am dy fod, Fab Duw, yn fyw; Gwelwn fuddugoliaeth cariad: Wyt Waredwr dynol-ryw. Ni thry'n ofer fyth dy aberth, Diorseddwyd angau trist, Trechwyd pechod yn ei anterth: WytOleuni'r byd, O! Grist. Dyma'r dydd i lawen ddathlu Grym dy atgyfodiad mawr: Am efengyl sydd yn allu 'Dry ein nos yn ddisglair wawr. Deffro ni i weld d'ogoniant, Drwy y groes a thrwy y bedd; Gwnani'n dystion i'th lawn haeddiant: Byw yn llewyrch claer dy wedd. Efallai y bydd ychydig sylwadau ynghylch y modd y daeth y penillion uchod i fod o beth diddordeb i rai. Bydd ambell un yn gofyn imi o dro i dro y blynyddoedd diwethaf hyn, 'Pa ffordd y byddwch yn mynd atì i lunio emyn?' Y gwir yw, ni byddaf yn mynd ati o gwbl. Gallaf dystio gyda phob gwyleidd-dra mai'r geiriau sy'n dod ataf fi yn ddigymell, nid yn aml, a byddaf yn meddwl fy mod yn eu hadnabod. Ni allaf esbonio, dim ond gan Tudor Davies