Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Ysbrydoliaeth ar Adain Cân gan Hafina Clwyd Erthygl yw hon a ymddangosodd gyntaf yn y Western Mail, ddydd Sadwrn, 20 Ionawr 1996. Fe'i cyhoeddir yma gyda chaniatâd caredig Hafina Clwyd a'r Western Mail. Ymhen pythefnos bydd gêm rygbi ryngwladol gynta'r tymor yn cael ei chwarae. Un o'r pethau sydd yn codi calon chwaraewyr Cymru, meddir, yw'r canu. Mae'n siwr bod seiniau 'Calon Lân' a 'Glân Geriwbiaid' ac ati wedi rhoi adenydd ar ambell bâr o esgidiau yn y gorffennol. Ond y farn gyffredinol yw mai edwino y mae'r canu ac mai prin iawn yw'r gwylwyr sydd yn gwybod y geiriau erbyn hyn. Mi gawn ymateb ddigon ffrwcslyd pe bawn yn gofyn iddynt ganu 'Tôn Bob y Felin.' Ond chwarae teg, fyddai dim llawer o gapelwyr ffyddlon yn medru ei chanu'n fyrfyfyr chwaith er eu bod wedi'i chanu gannoedd o weithiau, mae'n siwr. 'Caersalem' yw ei henw swyddogol, rhif 271 yn y Llyfr Emynau a Thonau, ar y geiriau 'Dan dy fendith, wrth ymadael'. Ganwyd cyfansoddwr y dôn yn 1796, ddau can mlynedd i eleni. Robert Edwards oedd ei enw a dechreuodd ei yrfa fel melinydd yn ardal Mostyn, sir y Fflint. Yn Lerpwl y treuliodd y rhan fwyaf o'i oes. Ond ei swydd fel melinydd a roes y llysenw i'r emyn-dôn, 'Tôn Bob y Felin'. Parodd hyn i mi feddwl am emyndonau eraill â Uysenwau a chofiais am 'Ebeneser' o waith Thomas John Williams, brodor o Ynysmeudwy. Mae'r dôn hon yn gant oed eleni [19961. Efallai'n wir nad ydych yn gyfarwydd â hi dan yr enw 'Ebeneser' dyna enw'r capel yr oedd yr awdur yn ei fynychu ym Mhontardawe. 'Tôn y Botel' yw'r enw poblogaidd arni ac yr oedd stori ramantus yn gysylltìedig â hi. Cofiaf fy nain yn dweud wrthyf i'r dôn gael ei darganfod ar ddarn o bapur mewn potel ar y traeth yn rhywle. Yr oeddwn yn barod i gredu'r stori ac yn meddwl bod y nodau cyntaf la la ti do ti la yn y cywair llcddf yn gwneud swn tebyg i ddwr yn tywallt allan o botel. Chwalwyd y ddelw pan glywais mai'r Daily Mail a gychwynnodd y stori ym mis Ionawr 1902. Un o straeon y tabloids oedd hi wedi'r cwbl. Yn ôl y papur, golchwyd y botel i'r