Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

lan ar arfordir gogledd Cymru a dyna sut y cafodd yr enw. Bachgen lleol dienw a ledaenodd y stori gelwyddog a hysbysu'r papur iddo weld y botel â'i lygaid ei hun yn cael ei thaflu gan don i'r traeth yn ardal Llyn. Mae naws yr eigion yn y dôn ond am ryw reswm ni chafodd ei chynnwys yn y Llyfr Emynau a Thonau. Tôn arall oedd yn tynnu fy sylw pan oeddwn yn blentyn oherwydd ei henw ysmala oedd 'Yr Hen Ganfed' ac yr oeddwn bob amser yn ei gweld ar ffurf hen wraig mewn het Gymreig. Ond tôn estron yw hi a dywedir iddi darddu o Genefa a chael ei chludo yma gan y Piwritaniaid. Er iddi arddel gwahanol enwau dros y blynyddoedd, Edmwnd Prys fu'n gyfrifol am ei phoblogeiddio drwy ei gosod yn ei Salmau Cân ar gyfer y ganfed salm; yr Hen Ganfed'. Y mae hefyd dôn o'r enw 'Yr Hen Gant Tri Deg a Saith'. Ofnaf ni allaf wirioni ar yr enw. Ddim hanner cystal â 'Tôn Bob y Felin' neu 'Dôn y Botel'. » » Pethau Bychain, Geiriau Bychain gan Dafydd Jenkins Erbyn hyn mae Cymru'n bur gyfarwydd ag anogaeth Dewi Sant yn ei neges olaf, 'Gwnewch y pethau bychain a glywsoch ac a welsoch gennyf i' mor gyfarwydd, yn wir, nes mynd braidd yn ddibris ohonynt. Efallai ei bod yn bryd inni roi sylw manylach iddynt; ond am y tro, gellir bodloni ar gofio geiriau Dewi a throi i sylwi ar fath arbennig o beth bychain, ar rai o eiriau bychain ein hemynau. Mae'r beirniaid llenyddol ers blynyddoedd bellach yn arfer collfarnu Pantycelyn am wendidau prydyddol, ac yn benodol am arfer cymaint o eiriau llanw ystrydebol; mae ef dan gabl yn arbennig am sôn am ei enaid bach. Efallai iddo bechu fel hyn weithiau: ond tybed nad yw'r beimiaid yn collfarnu ynddo ef bechod sy'n eu poeni hwythau yn y dirgel? Mae'n amlwg fod y cyfnewidwyr emynau wedi gwthio llawer o eiriau ystrydebol i rai o weithiau'r emynwyr gorau. Felly, mae arnaf eisiau awgrymu fod Pantycelyn, weithiau o leiaf, yn cyfeirio at ei enaid bach er mwyn cyferbynnu bychandra