Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Cofio Taid: Yr Athro D. E. Parry Williams gan Rhiannon Lloyd Jones Ganed Taid neu'r Athro Emeritws David Ewart Parry Williams, a rhoi iddo ei enw llawn yn fab i brifathro Ysgol Glyn-nedd yn 1900, cyn oes darlledu a chyn bod addysg swyddogol mewn cerddoriaeth ar gael yn gyffredinol. Cyn troi at gerddoriaeth, graddiodd mewn Cemeg, a dysgodd yn Ysgol yr Eglwys Gadeiriol yn Llandaf, yn Ysgol Lewis Pengam ac yn yr Adran Addysg yng Ngholeg y Brifysgol, Caerdydd. Mae'n siwr i'w hyfforddiant gwyddonol hogi ei feddwl dadansoddi. Daeth dadansoddi strwythurau cerddorol yn un o'i i brif ddiddordebau. Ef yw awdur y llyfr safonol, Elfennau Cerddoriaeth. Adargraffwyd y fersiwn Saesneg ohono, A Music Coursefor Students, ároeon erbyn hyn, acfe'i defnyddir led-led y byd hyd heddiw. Yn yr 1930au ef oedd un o'r cyntaf i gyfrannu i Raglenni Cerddoriaeth Ysgolion y BBC. Bu hefyd yn y cyfnod hwnnw yn organydd ac arweinydd côr Eglwys Pembroke Terrace, Caerdydd. Yn 1943 fe'i penodwyd yn Gyfarwyddwr Cerddoriaeth Coleg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor. Bydd llawer yn cofio'r hwyl a ddaeth i'r Adran wrth iddo arwain côr myfyrwyr y Coleg. Erbyn iddo ymddeol yr oedd wedi penodi cyfansoddwyr adnabyddus fel Reginald Smith-Brindle, Bernard Rands a William Mathias yn ddarlithwyr, a datblygu'r Adran i gynnal graddau B.Mus. ac ystod o raddau uwch. Bu'n beirniadu'n gyson yn yr Eisteddfod Genedlaethol ac yn Eisteddfod Llangollen ac ef a sefydlodd Ysgol Haf Cerddoriaeth Harlech. Bu'n gadeirydd cyntaf Pwyllgor Cerddoriaeth Cyngor y Celfyddydau yng Nghymru, yn aelod o Fwrdd Gwasg Prifysgol Cymru ac o'r pwyllgor a luniodd Termau Cerddoriaeth (1984). Yn ystod ei hwyr ddyddiau ei foddhad mawr fyddai cofio am lwyddiant ei gyn-fyfyrwyr, yn athrawon mewn ysgolion ac adrannau cerdd ar hyd a lIed y byd, yn gyfansoddwyr, yn ddarlledwyr ac yn arweinyddion. Byddant hwy yn ei gofio ef fel athro a oedd yn eu hysbrydoli â'i frwdrydedd a'i hiwmor. Rwyf i'n ei gofio fel dyn â diddordebau eang. Ar y naill law byddai'n awyddus i weld fy ngwerslyfrau mathemateg a gwyddoniaeth, ac ar y llaw arall byddai'n trafod yn frwd waith