Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y Diweddar Barchedig W. Rhys Nicholas (1914-96) gan Brynley F. Roberts Cymharol brin yw emynwyr mawr unrhyw gyfnod; prinnach fyth ar adeg o drai ar grefydd. Y mae llawer emynydd wedi gallu ymborthi ar gyfoeth ein cynhysgaeth emynyddol ond ychydig sydd wedi gallu tynnu ar y traddodiad hwnnw wrth ganu yn eu hoes eu hunain. Yr oedd y diweddar Rhys Nicholas yn fardd medrus a oedd wedi ymdrwytho yn y traddodiad barddol ac yr oedd yn gallu tynnu ar gyfoeth llenyddol ei fro ei hun yn sir Benfro. Ef oedd y dewis naturiol i olygu gwaith beirdd y sir yn Beirââ Penfro yn 1961. Yr oedd yn llenor dawnus ac yn gymreigiwr cadarn a roes oes o wasanaeth i'r Eisteddfod Genedlaethol, i Orsedd y Beirdd ac i Undeb yr Annibynwyr fel bardd, golygydd, gweinyddwr a swyddog gwasg. Yr oedd, at hynny, yn feimiad llenyddol safonol ac yn hanesydd llên, fel y tystía llyfrau megis The Folk Poets (1978) a Crwys y Rhamantydd (1990). Ond er cymaint ei wasanaeth yn yr amrywiol feysydd hyn, fel emynydd y cyfrannodd fwyaf ac y mae'n ddiau gennyf mai fel emynydd yr hoffai ef gael ei gofio. Rhoes ei ddoniau llenyddol yn hael i wasanaeth yr Eglwys. Fel pob emynydd eneiniedig llwyddai i adnabod cywair bywyd ei chynulleidfaoedd, oherwydd dirgelwch y gwir emynydd yw ei ddawn i ganu o'i brofiad ef ei hun mewn modd sy'n mynegi profiadau gwyr a gwragedd cyffredin, ond yn fwy na hynny, mewn ffordd sy'n rhoi geiriau i'w dyheadau mud hwy. Daeth Rhys Nicholas yn emynydd mwyaf ei gyfnod mewn ystyr arbennig iawn nid yn bennaf ar gyfrif swm ei gynnyrch (sydd yn rhyfeddol) nac ychwaith yn amrywiaeth ei arddull o'r fwyaf urddasol i emynau syml i blant ond am iddo lynu wrth ei ffydd gadarn mewn dyddiau dreng. Hawdd yw gwangalonni, a haws yw dwrdio drygau oes, ond geiriau cyson emynau Rhys Nicholas yw 'goleuni', 'blas ar fyw', 'harddwch', 'glendid', 'rhyddid', 'trysor', ac nid rhyfedd mai cywair mawl i'r Rhoddwr hael sydd ynddynt. Rhannodd ei weledigaeth a'i ffydd fel y daeth ei emynau'n gynhaliaeth i rai llai sicr eu ffydd. Pan sonnir amdano fel emynydd poblogaidd, clod iddo yw hynny, ei fod wedi cyfrannu mor gadarnhaol ac wedi ysbrydoli