Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

cynulleidfaoedd mewn iaith ac arddull sy'n gydnaws â'r traddodiad Uenyddol ar y naill law ac â'r cyfnod ar y Uaw arall. Y mae ei emynau'n harddu llyfrau emynau diweddar pob enwad, ond fe erys swm y trysor yn ei gyfrolau, Cerdd a Charol (1969), Oedfa'r Ifanc (1974), Cerddi Mawl (1980; ail arg., 1991), Gweddiau a Salmau (1989). Da cael gwybod fod ei bapurau yn ddiogel yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Bu Rhys Nicholas yn gefn i Gymdeithas Emynau Cymru. Ymddiddorai yn hanes emynwyr, fel y dengys ei lyfr, Thomas Wüliam, Bethesda'r Fro (1994), a'i ddarlithiau i'r Gymdeithas. Bu'n ffyddlon i'n cyfarfodydd a'n pwyllgorau a braint inni oedd ei wahodd i fod yn Gymrawd o'r Gymdeithas. Derbyniasom yn helaeth ganddo. Bydd ei emynau, ei salmau a'i weddïau yn gymorth inni fwrw ein hiraeth amdano. 'Emynau Newydd' gan W. Rhys Nicholas Ar ôl marw'r Parch. W. Rhys Nicholas, daeth ei nai, Mr Richard E. Huws (sydd ar staff Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac sy'n gyfrifol am weinyddu hawlfreintiau gweithiau Mr Nicholas), ar draws dau emyn ymhlith ei bapurau nas cynhwyswyd yn ei lyfrau cyhoeddedig. 'Cymorth Cristnogol' yw teitl y naill emyn, a adawyd yn ddrafft anorffenedig ar brosesydd geiriau'r emynydd. Cyhoeddwyd y Hall, 'Gwna Ni yn Dystion', mewn rhaglen Dechrau Canu, Dechrau Canmol a ddarlledwyd o Seion, Eglwys yr Annibynwyr, Llandysul, yn Nhachwedd 1995. Cyhoeddodd Mr Huws y ddau emyn yn bamffledyn dan y teitl Emynau Newydd gan W. Rhys Nicholas yn 1998, a'r pamffledyn wedi'i argraffu gan Mr Huws ar ei wasg argraffu ef ei hun, 'Gwasg Hafod-wen', yn ei gartref yn Ffordd Caradog, Aberystwyth, Dyma bennill cyntaf 'Cymorth Cristnogol': Agor Di ein llygaid, Arglwydd, Gweld y gofyn sy'n ein hymyl, Maddau inni bob dallineb A'r anghofrwydd sy'n ein llethu I weld angen mawr y byd; Gweld y dioddef draw o hyd. Sydd yn rhwystro grym dy ras, Wrth fwynhau ein bywyd bras.