Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Symposiwm: Ann a'r Seiciatryddion Bydd Ann Griffiths yn cael tipyn o sylw yn ystod y misoedd a'r blynyddoedd nesaf. Mae safle Eisteddfod Genedlaethol 2003 o fewn tafliad carreg i'w chartref; bydd yn ddaucanmlwyddiant ei marw yn 2005. Ar ben hynny, bydd yn ganmlwyddiant a hanner marw ei chyfaill a'i chynghorydd, John Hughes, Pontrobert, yn 2004, a chanmlwyddiant a hanner marw cyd-seiadwr arall iddi, John Davies, Tahiti, yn 2005. Amserol, felly, yw cynnwys symposiwm arni yn y rhifyn hwn o'r Bwletin. 'Bu Ann druan yn labordy meddwl y seicolegydd lawer gwaith,' meddai'r Parch. Ddr Noel A. Gibbard yn anghymeradwyol un tro am Ann Griffiths. Mentrwyd ei hanfon yma, nid at seicolegydd, ond at nifer o seiciatryddion proffesiynol a gofyn iddynt lunio paragraff neu ddau o adroddiad clinigol arni. Anfonwyd atynt hefyd y nodyn ar farwolaeth Ann a gynhwysodd Bobi Jones yn y llyfryn Ann Griffiths: Y Cyfrinydd Sylweddol (1977), t.48. Dyma'r nodyn, ac yna ymatebion y seiciatryddion yn ei ddilyn: Nodyn ar Farwolaeth Ann Griffiths gan Bobi Jones Bu peth dyfalu ynghylch achos marwolaeth Ann yn ddiweddar [1977]. Cawn Dr Derec Llwyd Morgan, er enghraifft, yn Taliesin, 32 (Gorffennaf 1976), t.45, yn gwneud yr awgrym diddorol hwn: Nid dyhead rhamantaidd am farw'n ifanc a aeth â hi o Ddolwar yn naw ar hugain oed, eithr calon wan. Yn ôl Morris Davies, 'Lied wannaidd oedd ei hiechyd hi er yn blentyn, fel y byddai mewn gwaeledd yn fynych, a dywedir iddi fod yn dioddef am ysbaid dan y cryd cymmalau dair gwaith yn ystod ei hoes.' Diau mai'r clefyd cryd cymalau oedd hwn, y rheumatic fever, a achosir gan firus cyffredin na ellid ei waredu trwy ddulliau meddygol yn ei hoes hi. Fe niweidiodd y clefyd falfiau calon Ann. Ni allodd ddal straen geni plentyn. Mewn 'gwendid mawr' post natal yr ymadawodd hi â'r byd a'r bywyd hwn. Ond y mae, serch hynny, resymau cryf dros ystyried darfodedigaeth yn achos i'w marwolaeth: