Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Caneuon Ffydd: Cipolwg ar Lunio'r Casgliad gan Derwyn Morris Jones Sgwrs a draddodwyd gan Ysgrifennydd Pwyllgor Golygyddol Caneuon Ffydd yn y Babell Lên, Eisteddfod Genedlaethol Sir Ddinbych a'r Cyffiniau, fore Iau, 9 Awst 2001. 'Antur enbyd yw llunio llyfr emynau; antur ddwbl enbydus yw rhyfygu paratoi llyfr emynau a thonau.' Dyna eiriau agoriadol erthygl gynhwysfawr Dr Brynley Roberts, Cadeirydd y Pwyllgor Golygyddol, ar y testun 'Golygu Caneuon Ffydd' yn Y Traethodydd, Ebrill 2001. Y cwestiwn cyntaf a ofynnwyd i mi mewn cyfarfod lle bûm yn siarad am lunio'r gyfrol oedd: 'A fuo 'na unrhyw ffraeo yn eich plith?' Er siom i rai, mae'n siwr, ni allaf ond ategu geiriau'r Cadeirydd: 'Ni chroesodd posibiliadau ffrae golygyddol feddyliau'r pwyllgor golygyddol wrth ymgymryd â'u tasg a bydd yn flin gan haneswyr, heb sôn am godwyr crachen, y dyfodol glywed i'r holl drafodaethau fod yn rhai cwbl dangnefeddus a chyfeillgar.' Clywaf ambell un yn sibrwd 'Ai angylion fu'n paratoi'r gyfrol?' Na, pechaduriaid a fu wrthi, a hynny sydd i gyfrif, debyg, am absenoldeb ambell ffefryn o'r casgliad, ac am bwysau'r argraffiad sol-ffa a hen nodiant! Y mae'r llyfr wedi esgor ar rai o gartwnau gorau y wasg Gymraeg eleni [2001], ac y mae rhifyn cyfredol Lol wedi cael hwyl gyda'i '101 Iws i Caneuon Ffydd\ Ymhlith yr awgrymiadau y mae defnyddio copïau i ail godi Clawdd Offa a chodi adeilad newydd i'r Cynulliad yng Nghaerdydd! Ond os bydd gwerthiant yr adargraffiadau yn debyg i'r argraffiad cyntaf, fydd fawr o gopïau dros ben at unrhyw ddiben arall. Yn Caneuon Ffydd cawsom lyfr emynau a thonau cydenwadol y cyntaf o'i fath at wasanaeth pump o enwadau a thraddodiadau eglwysig yng Nghymru, sef Undeb yr Annibynwyr Cymraeg, Undeb Bedyddwyr Cymru, Eglwys Bresbyteraidd Cymru, Yr Eglwys Fethodistaidd a'r Eglwys yng Nghymru. Cyfrol ydyw sydd wedi ei chomisiynu gan yr enwadau hynny. Cyn dweud rhagor am hyn, hwyrach y dylwn grybwyll y cwestiwn sylfaenol, paham y mae Cristnogion yn canu o gwbl? Bu rhai o'n tadau yn amheus iawn o'r gân mewn oedfa. O'i chynnwys o gwbl, dim ond