Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

enwadau. Crynhoir dymuniad diffuant pob un ohonom yn englyn John Gwilym Jones, 'Gweddi'r Golygyddion': Cynhaeaf y Caneuon rown i wlad, Rhown lyfr mewn gobeithion Y daw Duw, drwy'r gair a'r dôn, Eilwaith i hawlio'i chalon. *Aelodau'r Pwyllgor Golygyddol oedd Gwennan Creunant, Cynthia Saunders Davies, Eirlys Dwyryd, John S. Davies, Euros Rhys Evans, E. H. Griffiths, Hywel M. Griffiths, Rhidian Griffiths, Tecwyn Ifan, Casi Jones, Derwyn Morris Jones, John Gwilym Jones, T. R. Jones, Siôn Aled Owen, Brynley F. Roberts, Enid Pierce Roberts, a'r diweddar T. Arfon Williams. Emyn a luniwyd ar gyfer priodas Anwen Mair Thomas a Rhodri Elis Jones yng nghapel Heol Awst, Caerfyrddin, 17 Ebrill 2003 Tôn: Pantyfedwen Mae gwlad o ganu yn fy nghalon i. Mae'n bedwar llais ei chlod i Galfari, Cans yno clywais gyntaf eiriau'r gân Fod rhyngof fi a'm Duw briodas lân. 'Wyt eiddo im,' medd ei sibrydion serch; Deced y gân â llwon mab a merch. Cariad y Tad a'i cyfansoddodd hi, Aberth y Mab a'i canodd drosof fi. A than gyfeiliant cyffro'r Ysbryd Glân Ces innau ras i ddechrau canu'r gân, I geisio Duw gan ei adleisio Ef A gweld cariadon byd yng ngolau'r nef. Anthem o gariad ydyw cân y groes; Boed imi'i gwrando'n ffyddlon drwy fy oes. Cariad y Tad a'i cyfansoddodd hi, A chyda'r Mab ei chanu fyth 'wnaf fi. Tudur Hallam