Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Emynau Morgan Rhys gan Rhidian Griffiths Anerchiad a draddodwyd yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Benfro, Tyddewi, 2002, mewn cyfarfod i lansio cyfrol Gwasg Gregynog, Emynau Morgan Rhys, detholiad o ddeugain o'i emynau, wedi'u dethol ynghyd â rhagymadrodd gan D. Simon Evans a'u darlunio gan Rhiain M. Davies. Mae'n debyg fod gan y Gymru Gristnogol hawl ar ambell air paganaidd. Defnyddir y gair Groeg 'pantheorì fel arfer i ddynodi oriel y duwiau neu'r anfarwolion, weithiau mewn rhyw faes penodol. Ac ym mhantheon emynwyr Cymru fe osodwn yn ddibetrus Williams Pantycelyn, Ann Griffiths a Morgan Rhys. Gan ein bod yng Nghymru, i raddau mwy na'n cymdogion yn Lloegr er enghraifft, yn ystyried yr emyn yn ffurf lenyddol, mae'n briodol fod gwasg breifat bwysicaf ac enwocaf y genedl yn rhoi sylw i'n hemynwyr, hyd yn oed mewn gwlad y gellir ysywaeth ei galw bellach yn Gymru ôl- Gristnogol. Yn 1990, yn rhagflas o ddaucanmlwyddiant marw'r Perganiedydd, cyhoeddodd Gwasg Gregynog ddetholiad o Emynau Williams Pantycelyn gan Derec Llwyd Morgan. Wyth mlynedd yn ddiweddarach, ymddangosodd Rhyfeddaf Fyth, golygiad o emynau a llythyrau Ann Griffiths gan E. Wyn James. A dyma bellach yr olaf o'r drindod os caf ryfygu defnyddio'r gair sef Emynau Morgan Rhys, deugain ohonynt wedi'u dethol a'u golygu gan y diweddar Athro D. Simon Evans (1921-98). Mae'r gyfrol yn un hardd ac yn deilwng o safonau'r wasg; fe'i cyfoethogwyd, fel y ddwy gyfrol flaenorol, gan ddarluniau Rhiain M. Davies, sydd yn drysorau ynddynt eu hunain. Yn ei ragymadrodd i'r gyfrol mae Simon Evans yn olrhain gyrfa a gwaith Morgan Rhys yn ei gefndir, ac yn sôn am rin arbennig yr ardal honno yn sir Gaerfyrddin lle y treuliodd yr emynydd ei oes, Cil-y-cwm ei febyd a Llanfynydd ei aeddfedrwydd; ac yn pwysleisio pwysigrwydd y fro yn hanes Methodistiaeth a'r mudiadau a ragflaenodd y cyfnod Methodistaidd. O fewn yr un cylch y mae Llanymddyfri y Ficer Prichard a Llanddowror Griffith Jones, ac o fewn yr un sir, yr hynod sir Gâr, y mae Pantycelyn a Llanfair-ar-y-bryn.